Mae miliynau o deuluoedd yn wynebu “trychineb costau byw” yn 2022 yn sgil cynnydd mewn biliau ynni a threthi, yn ôl melin drafod.

Mae’r Resolution Foundation wedi rhybuddio y bydd teuluoedd o fis Ebrill ymlaen yn wynebu costau ychwanegol o £1,200 y flwyddyn wrth i’r cap ar brisiau ynni godi a chynnydd o 1.25% mewn cyfraniadau Yswiriant Cenedlaethol ddod i rym.

Ar yr un pryd fe fydd cynnydd mewn chwyddiant yn golygu bod lefelau cyflog yn aros yn eu hunfan. Mae economegwyr yn darogan y bydd chwyddiant yn cyrraedd 0.6% yn y gwanwyn.

“Argyfwng”

Dywedodd prif weithredwr y Resolution Foundation, Torsten Bell, fod y “wasgfa” ar safonau byw yn debygol o fod mor ddifrifol fel y bydd y Canghellor Rishi Sunak yn dod o dan bwysau cynyddol i weithredu i leddfu’r boen economaidd.

Daw’r rhybudd diweddaraf ynghanol ofnau ymhlith Aelodau Seneddol Torïaidd y bydd “argyfwng costau byw” yn y flwyddyn newydd yn tanseilio cefnogaeth pleidleiswyr i’r Llywodraeth, sydd eisoes dan y lach yn sgil adroddiadau am bartïon yn Downing Street ym mis Rhagfyr y llynedd oedd yn groes i reolau Covid.

Dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth fod gweinidogion wedi “gweithredu’n bendant” drwy roi gwerth £4.2 biliwn i helpu i gefnogi teuluoedd gyda chostau byw.

Mae hyn yn cynnwys ystod o fesurau i helpu gyda biliau, gan gynnwys y cap pris ynni a thaliadau tywydd oer, yn ogystal â rhewi treth alcohol a thanwydd.