Cododd pris cyfartalog tŷ yng Nghymru bron i £27,000 yn ystod 2021 – y cynnydd mwyaf a gofnodwyd erioed mewn un flwyddyn mewn termau arian parod, yn ôl mynegai.
Cyrhaeddodd pris nodweddiadol cartref y lefel uchaf erioed, sef £196,759, ym mis Rhagfyr, sy’n gynnydd o £26,913 dros y flwyddyn ddiwethaf, meddai Cymdeithas Adeiladu Nationwide.
Dywedodd Nationwide fod prisiau tai ar draws y Deyrnas Unedig 10.4% yn uwch ar ddiwedd 2021 ac 1.0% yn uwch ym mis Rhagfyr.
Wrth edrych ar yr hyn sydd y tu ôl i’r cynnydd mewn prisiau, dywedodd Prif Economegydd Nationwide, Robert Gardner, fod y galw am gartrefi wedi parhau’n gryf.
Dywedodd mai Cymru oedd “perfformiwr cryfaf” 2021, gyda phrisiau tai yma wedi cynyddu 15.8% o flwyddyn i flwyddyn.
Dyma’r tro cyntaf yn hanes y cofnodion rhanbarthol (a ddechreuodd yn 1973) i Gymru orffen y flwyddyn ar y brig.
Dywedodd Mr Gardner: “Mae lefelau cymeradwyo morgeisi ar gyfer prynu tai wedi parhau i fod yn uwch na lefelau cyn y pandemig. Yn wir, yn ystod 11 mis cyntaf 2021 roedd cyfanswm nifer y trafodiadau eiddo bron 30% yn uwch nag yn ystod yr un cyfnod yn 2019.
“Ar yr un pryd, mae’r stoc o gartrefi ar y farchnad wedi aros yn isel iawn drwy gydol y flwyddyn, sydd wedi cyfrannu at gyflymder twf y prisiau.”
Dywedodd Mr Gardner bod y rhagolygon ar gyfer y farchnad dai “yn parhau i fod yn ansicr iawn”.
Cynnydd cryf yn ne-orllewin Lloegr hefyd
Ychwanegodd: “Fe wnaeth cryfder y farchnad synnu yn 2021 a gallai wneud hynny eto yn y flwyddyn i ddod.
“Mae gan y farchnad fomentwm sylweddol o hyd a gallai newidiadau mewn dewisiadau tai o ganlyniad i’r pandemig barhau i gefnogi gweithgarwch a thwf mewn prisiau.”
Dywedodd: “Gwelodd Lloegr gynnydd bach mewn twf prisiau blynyddol i 9.0%, o 8.5% yn y trydydd chwarter…
“A’r De-orllewin oedd y rhanbarth Seisnig berfformiodd gryfaf, gyda thwf prisiau blynyddol o 11.5%, y cynnydd mwyaf yn y flwyddyn galendr yn y rhanbarth ers 2004.”
Marchnad “fyrlymus” yn 2021
Dywedodd Karen Noye, arbenigwr morgais yn y cwmni rheoli cyfoeth Quilter: “Wrth i ni symud i 2022 – ac i ffwrdd o’r farchnad eiddo fyrlymus a welwyd drwy gydol 2021 – rydym yn debygol o weld prisiau a thrafodiadau eiddo yn arafu, yn enwedig os bydd Banc Lloegr yn cynyddu cyfraddau llog ymhellach.
“Er y gallwn weld y farchnad eiddo’n arafu, nid yw hyn yn golygu y bydd prynu cartref yn dod yn fwy fforddiadwy. Ochr yn ochr â’r farchnad dai sydd eisoes wedi chwyddo, mae cyfraddau morgais wedi cynyddu yn dilyn cynnydd yn y gyfradd gan Fanc Lloegr, a gan nad yw chwyddiant yn ymddangos fel pe bai’n arafu, bydd costau’n debygol o barhau i godi.
“Gallai costau morgais uwch, ynghyd â’r ansicrwydd ynglŷn ag amrywiolyn Omicron, wneud i bobl feddwl ddwywaith am symud cartref a gallem weld toriad mewn twf mewn prisiau tai o ganlyniad. Fodd bynnag, mae materion cyflenwad yn erbyn galw yn parhau, felly rydym yn debygol o weld twf yn arafu’n raddol wrth i ni fynd i 2022, yn hytrach na gostyngiad sydyn.”
Dywedodd Gareth Lewis, cyfarwyddwr masnachol y benthyciwr MT Finance: “Er bod llawer o bobl wedi symud, mae digon o alw o hyd, a fydd yn cadw prisiau eiddo’n uchel.”
Y Rhestr Lawn ar gyfer y Deyrnas Unedig
Dyma brisiau tai cyfartalog yn ystod pedwerydd chwarter 2021, ac yna’r cynnydd blynyddol mewn termau arian parod a chanran, yn ôl Cymdeithas Adeiladu Nationwide:
– Cymru, £196,759, £26,913, 15.8%
– Gogledd Iwerddon, £167,479, £18,096, 12.1%
– De Orllewin, £294,845, £30,333, 11.5%
– De-ddwyrain Allanol (sy’n cynnwys trefi ac ardaloedd fel Ashford, Bedford, Braintree, Caergaint, Colchester, Dover, Hastings, Lewes, Fareham, Ynys Wyth, Maldon, Milton Keynes, Rhydychen, Portsmouth, Southampton, Winchester, Worthing), £329,869, £33,579, 11.3%
– Gogledd Orllewin, £196,806, £19,882, 11.2%
– Swydd Efrog a’r Humber, £190,855, £18,530, 10.8%
– Dwyrain Anglia, £268,146, £25,342, 10.4%
– Dwyrain Canolbarth Lloegr, £221,813, £20,861, 10.4%
– Yr Alban, £172,605, £15,836, 10.1%
– Gorllewin Canolbarth Lloegr, £227,031, £19,428, 9.4%
– Yr Ardal Fetropolitan Allanol (sy’n cynnwys trefi ac ardaloedd fel St Albans, Stevenage, Watford, Luton, Maidstone, Reading, Rochford, Rushmoor, Sevenoaks, Slough, Southend-on-Sea, Elmbridge, Epsom ac Ewell, Guildford, Waverley, Woking, Tunbridge Wells, Windsor a Maidenhead, Wokingham), £410,992, £33,316, 8.8%
– Gogledd Ddwyrain, £148,105, £10,574, 7.7%
– Llundain, £507,230, £20,668, 4.2%