Fe wnaeth ysgrifennydd cyntaf Cymru, Alun Michael, godi pryderon ynghylch cronfeydd strwythurol yr Undeb Ewropeaidd bron i flwyddyn cyn iddo ymddiswyddo dros y mater.
Mae papurau Cabinet o 1999, sydd newydd gael eu rhyddhau, yn dangos fod Alun Michael wedi annog gweinidogion y Deyrnas Unedig i gau’r “bwlch cyllido” yn y grantiau.
Yn 2000, ymddiswyddodd Alun Michael fel ysgrifennydd Cymru yn sgil ffrae ynghylch a fyddai Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cyfateb gwerth £1.2bn o grantiau gan yr Undeb Ewropeaidd dros gyfnod o saith mlynedd.
Mewn llythyr a anfonwyd at y Prif Weinidog Tony Blair a’r Canghellor Gordon Brown fis Ebrill 1999 dywedodd Alun Michael fod yn rhaid iddo “bwyso am ymateb sylweddol a chadarnhaol i’r bwlch cyllido”.
Wrth ymateb, dywedodd ymgynghorydd i Tony Blair y byddai gwneud addewid ariannol ar gyfer y blynyddoedd i ddod yn “gyrru coets a cheffylau” drwy gynlluniau i reoli gwariant cyhoeddus.
Refferenda datganoli
Mae’r papurau hefyd yn dangos bod arweinydd y Torïaid, William Hague, wedi annog Tony Blair i ohirio refferenda datganoli yng Nghymru a’r Alban wedi marwolaeth Diana.
Roedd disgwyl i’r refferendwm gael ei chynnal ar 11 Medi 1997, a refferendwm Cymru’r wythnos wedyn ar 18 Medi.
Pan gyhoeddwyd y byddai angladd Diana’n cael ei gynnal ar 6 Medi, fe wnaeth William Hague ysgrifennu at Tony Blair yn ei annog i ohirio’r refferendwm.
“Bydd hyn yn golygu rhoi stop ar ymgyrchu ar gyfer y refferendwm, heb amheuaeth, a dim ond tri diwrnod fydd ar ôl i ymgyrch yr Alban,” meddai William Hague.
“Ni ellir ystyried hyn yn foddhaol, mewn unrhyw ffordd.
“Dw i’n teimlo’n gryf y dylid adalw’r Senedd yr wythnos nesaf er mwyn trefnu i ddiwygio’r Ddeddf Refferendwm er mwyn ei ohirio. Gyda chytundeb trawsbleidiol byddai hon yn broses sydyn a syml.”
Fe wnaeth Tony Blair wrthod y cais, gan ddweud wrth William Hague bod yna “drafferthion ymarferol difrifol”.
“Byddai ailalw’r Senedd yr wythnos hon yn cael yr effaith o wleidyddoli’r cyfnod hwn o alar – yr union beth mae pawb yn dymuno ei osgoi,” atebodd Tony Blair.
“Beth bynnag, mae’r ymgyrch wedi bod ar y gweill ers mis a hanner – hirach nag ymgyrchoedd etholiadau cyffredinol – ac mae datganoli wedi cael ei drafod yng Nghymru a’r Alban ers sawl blwyddyn.
“Dw i ddim yn credu bod atal yr ymgyrch am bum niwrnod yn cyfiawnhau’r newid mawr rydych chi’n ei awgrymu.”
Mewn nodyn preifat at Tony Blair, fe wnaeth Jonathan Powell, pennaeth ei staff, a wnaeth ddrafftio’r ateb, gyfaddef nad yw’r dadleuon ymarferol “mor gryf ag y byddwn i’n hoffi”.
“Y ddadl wirioneddol yw ein bod ni’n syml ddim eisiau newid dyddiad y refferendwm,” meddai.
“O ystyried bod Hague yn debygol o defnyddio’r llythyr hwn ar ôl dydd Sadwrn i ddangos pa mor afresymol ydyn ni, dw i wedi canolbwyntio ar y dadleuon ymarferol beth bynnag.”