Mae tîm criced Awstralia wedi cadw’r Lludw ar ôl curo Lloegr o fatiad ac 14 rhediad ar drydydd diwrnod trydydd prawf Cyfres y Lludw yn yr MCG ym Melbourne.
Mae’r canlyniad yn golygu eu bod nhw ar y blaen o 3-0 yn y gyfres gyda dim ond dwy gêm yn weddill.
Roedd yr ymwelwyr i gyd allan am 68 yn eu hail fatiad, oedd yn golygu nad oedd angen i Awstralia fatio eilwaith, a bod y gyfres – i bob pwrpas – ar ben ar y Saeson ar ôl dim ond 12 diwrnod o griced.
Y seren oedd Scott Boland, y bowliwr cyflym o dras Aborijini oedd yn chwarae yn ei brawf cyntaf, wrth iddo fe gipio chwe wiced am saith rhediad mewn pedair pelawd.
Ar ôl galw’n gywir a gwahodd Lloegr i fatio, fe wnaeth Awstralia fowlio’r gwrthwynebwyr allan am 185 yn eu batiad cyntaf – dim ond Joe Root (50) oedd wedi cyrraedd ei hanner canred i’r Saeson.
Wrth ymateb, sgoriodd Awstralia 267, gyda chyfraniad yr agorwr Marcus Harris o 76 yn gosod y seiliau, wrth i Jimmy Anderson gipio pedair wiced am 33 i Loegr.
Ond dim ond 27.4 o belawdau barodd ail fatiad Lloegr, gyda sgôr o 68 i gyd allan, a bydd cwestiynau mawr am y perfformiad.
Dadansoddiad: Alun Rhys Chivers
Am gywilydd, am embaras, am grasfa!
68 yw’r nawfed sgôr isaf erioed gan dîm Lloegr mewn gemau prawf yn erbyn Awstralia, a ffigurau Scott Boland yw’r gorau erioed i fowliwr yn ei brawf cyntaf yn y wlad ers y 1800au – ac fe wnaeth e efelychu’r pum wiced gyflymaf erioed gan un bowliwr mewn batiad i Awstralia yn y Lludw. 267 hefyd yw’r sgôr isaf gan dîm prawf sydd wedi ennill o fatiad a mwy ers dechrau’r ganrif hon.
Roedd cryn edrych ymlaen at y daith hon ar ôl blynyddoedd anodd yn sgil Covid-19, ond roedd amheuon hefyd a fyddai modd cynnal y daith o gwbl o gofio bod Awstralia’n destun cyfyngiadau amrywiol o un dalaith i’r llall. Roedd hyn hefyd yn golygu mai prin oedd yr amser gafodd Lloegr i baratoi ar ôl glanio yn y wlad, a bod y paratoadau’n wahanol iawn i’r arfer oherwydd y sefyllfa.
Ond does dim esgusodi’r perfformiadau gwael ers y prawf cyntaf. Dim ond pedwar chwaraeodd gyrhaeddodd ffigurau dwbwl yn y batiad cyntaf un yn y prawf cyntaf yn Brisbane, ac fe wnaeth Lloegr ddibynnu’n helaeth ar y capten Joe Root yn yr ail fatiad, gyda chyfraniad o 89. Dim ond Dawid Malan (82) gyfrannodd fel arall, ac roedd y fuddugoliaeth o naw wiced yn rhy hawdd o lawer i’r Awstraliaid.
Does dim modd i Loegr ddefnyddio’r bêl binc fel esgus yn yr ail brawf yn Adelaide, gan fod yr Awstraliaid wedi gwneud i’r batio edrych yn syml. Roedd Marnus Labuschagne, batiwr tramor Morgannwg, yn ei chanol hi gyda 103 – ei ganred cyntaf mewn gêm brawf yn y Lludw, a tharodd David Warner 95, Steve Smith 93 a’r wicedwr Alex Carey 51 yn ei brawf cyntaf. Roedd y sgôr o 473 am naw yn ormod i Loegr, wnaeth ymateb gyda 236 yn eu batiad cyntaf, gyda Malan (80) a Root (62) unwaith eto’n cynnal y Saeson. Tarodd Labuschagne a Travis Head 51 yr un wrth i Awstralia gau’r batiad ar 230 am naw, cyn i Loegr gael eu bowlio allan am 192 wrth golli o 275 o rediadau a neb yn cyfrannu’n sylweddol at y sgôr.
Roedd hynny’n golygu bod y gyfres yn symud i’r MCG a bod angen i Loegr ennill er mwyn osgoi colli’r gyfres. Ond roedden nhw’n rhy brin o lawer o rediadau unwaith eto. Roedd Covid-19 yn gysgod tros y gêm unwaith eto, ond roedd hynny’n effeithio ar y ddau dîm ac fe lwyddodd Awstralia i oresgyn yr anghyfleustra o golli’r capten Pat Cummins ar yr unfed awr ar ddeg, gan roi cyfle i Michael Neser, bowliwr tramor Morgannwg, wisgo’r het werdd am y tro cyntaf.
Ond mae’n debyg mai stori’r gyfres hyd yn hyn yw cyfraniad Scott Boland. Fe yw’r Aborijini cyntaf yn nhîm y dynion ers Jason Gillespie yn 2006 – a hwnnw hefyd wedi chwarae i Forgannwg fel bowliwr tramor ar ddechrau’r ganrif. Cafodd Boland ei ddewis ar ei domen ei hun am ei fod e’n gyfarwydd â’r llain, ond mae’n debygol y bydd hi’n anodd i’r dewiswyr ei hepgor e ar ôl ei berfformiad ym Melbourne.
Y cwestiwn mawr i Loegr yw lle byddan nhw’n troi nesaf. Tîm undydd fuon nhw ar y cyfan dros y blynyddoedd diwethaf, a’r rhestr fatio’n frith o sêr y bêl wen. Ond cafodd eu gwendidau â’r bêl goch Awstralaidd eu hamlygu yn y modd gwaethaf posib hyd yn hyn. Fe ddylai Root, Malan, Ben Stokes, Jonny Bairstow a Jos Buttler fod yn gallu cynnal y batiad ond os ydyn nhw’n methu fel maen nhw wedi’i wneud yn y gyfres hon, prin yw’r opsiynau wedyn.
O blith sgoriau isaf Lloegr erioed ar y llwyfan rhyngwladol, daeth dau ohonyn nhw ers 2019, sy’n adrodd cyfrolau am y gwendidau yn y tîm.
Roedd achos gan Root i ddathlu ar lefel bersonol, serch hynny. Mae e wedi sgorio 1,708 o rediadau yn ystod y flwyddyn galendr bresennol – dim ond Mohammad Yusuf a Viv Richards, cyn-fatiwr tramor Morgannwg, sydd wedi sgorio mwy mewn blwyddyn galendr ar y llwyfan rhyngwladol.
Mae gweddill y daith am deimlo fel oes i Loegr ar ôl y grasfa hon, ond gall Awstralia fod yn hyderus am beth amser eto fod ganddyn nhw ddigon o sêr, ac arweinydd medrus yn Pat Cummins, heb sôn am gyfoeth o opsiynau ym mhob adran. Ac yma yng Nghymru, gall Morgannwg ymfalchïo yn y ffaith fod ganddyn nhw fatiwr gorau’r byd yn Labuschagne ac yn Neser, fowliwr cyflym all serennu ar y llwyfan rhyngwladol rywbryd eto.