Mae ystafell synhwyraidd newydd yng Nghlwb Pêl-droed Abertawe yn cynnig “y gorau o ddau fyd” i gefnogwyr a fyddai’n ei chael hi’n anodd mynd i gemau, yn ôl mam dwy ferch sy’n gallu manteisio ar y cyfleusterau newydd.
Mae Cath Dyer o Abertawe yn aelod blaenllaw o Gymdeithas Cefnogwyr Anabl yr Elyrch, ac mae ganddi ddwy ferch – Claire sy’n awtistig a Nicola sy’n fyddar.
Diolch i’r cyfleuster newydd, dywed fod ei theulu’n gallu mwynhau mynd i’r stadiwm heb boeni am ffactorau a fyddai fel arall yn ei gwneud hi’n anodd iawn iddyn nhw fod yno.
“Mae angen e ar rai cefnogwyr, yn enwedig rhai ag anghenion arbennig, anxiety, awtistiaeth,” meddai wrth golwg360. “Mae Nicola gyda ni yn ffaelu mynd i gemau. Sdim gobaith fydd hi’n eistedd.
“Mae’n ffaelu godde’r swn, y crowd rownd y lle i gyd, arogl bwyd… Mae’n mynd yn fed up hanner ffordd drwy’r gêm ac yn ffaelu eistedd.”
Mwynhau fel teulu
Ond diolch i’r cyfleusterau newydd, cafodd Nicola fwynhau gêm gyfeillgar rhwng Abertawe ac Atalanta cyn dechrau’r tymor – a hynny yn niogelwch yr ystafell synhwyraidd.
“Roedd hi’n ffodus. Aethon ni i’r sensory room a gweld y goliau i gyd. Aeth hi ma’s i’r cae i weld rhywfaint o’r gêm a phan oedd hi wedi cael digon, aeth hi nôl i’r sensory room. Ry’n ni’n cael y gorau o ddau fyd.
“Mae lot o bethau’n gallu gwneud i gefnogwyr fod eisiau hwn. Mae’n lle tawel, esmwyth, diogel lle maen nhw’n gallu mynd i ymlacio a dod yn ôl atyn nhw eu hunain os yw pethau’n mynd yn ffradach yn eu pennau. Maen nhw’n gallu gweld y gêm heb fod ynghanol y cefnogwyr i gyd.
“Mae lot o swn a galw ma’s, ac mae cefnogwyr yn bwyta felly gall arogl bwyd effeithio ar rai pobol. Mae eistedd yn llonydd mewn sedd am amser hir yn gallu cael effaith ar bobol hefyd.
“Mae shwd gymaint o bethau yn gwneud i rywun ag awtistiaeth dorri lawr ychydig bach. Gall fod yn ymwneud ag unrhyw beth o ran clywed, gweld, arogli, jyst unrhyw beth sy’n effeithio’r synhwyrau i gyd.”
Sunderland yn arwain y ffordd
Mae Clwb Pêl-droed Abertawe’n dilyn esiampl Clwb Pêl-droed Sunderland, y clwb pêl-droed cyntaf i sefydlu ystafell synhwyraidd.
Fe gafodd ei sefydlu yn dilyn ymgyrch Kate a Peter Shippey, sydd â thri o feibion awtistig – Nathan, Callum ac Owen. Doedd Nathan yn methu ymdopi â’r swn yn y stadiwm, ac fe benderfynon nhw ymgyrchu i gael gofod tawel ar ei gyfer.
“Mae lot o sensory rooms i gael o gwmpas y wlad,” meddai Cath Dyer. “Mae teulu’r Shippeys wedi meddwl am lot o’r syniadau wedi dod o’r fan yna.
“Yn Abertawe, gaethon ni gyfarfod diwedd flwyddyn diwetha’ gyda’r Shippeys a chwarae teg, fel teulu, gaethon ni’r cyfle i fynd i’r sensory room yn ystod y gêm yn erbyn Atalanta. Wnaeth e fyd o les.”