Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i weithredu ar unwaith i atal y posibilrwydd o ehangu Pwll Glo Aberpergwm yng Nghwm Nedd.

Mae Awdurdod Glo’r Deyrnas Unedig yn agos at wneud penderfyniad ynghylch ehangu Glofa Aberpergwm.

Roedd y safle yn Aberpergwm yn weithredol tan yn gymharol ddiweddar, ac mae disgwyl i’r Awdurdod Glo benderfynu a yw’r amodau’n briodol yno i ddechrau ar y gwaith.

Daw’r cynlluniau ehangu posibl er gwaethaf addewidion gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystod cynhadledd hinsawdd Cop26 i symud i ffwrdd o lo.

Mae’r ehangu posibl hefyd wedi sbarduno ffrae arall rhwng gweinidogion yn San Steffan a Bae Caerdydd dros ddatganoli, gyda Llywodraeth Cymru yn cyhuddo Llywodraeth y Deyrnas Unedig o anwybyddu ei dymuniadau.

Deiseb

Ddoe (4 Ionawr) cyhoeddodd y Democratiaid Rhyddfrydol ddeiseb ar eu gwefan i geisio atal safle glofaol newydd yng Nghwm Nedd.

“Nid yn unig y byddai agor safle glofa newydd yn gam enfawr yn ôl yn ein brwydr i atal newid hinsawdd, ond fe allai achosi effeithiau iechyd andwyol,” meddai’r Democratiaid Rhyddfrydol ar dudalen y ddeiseb ar eu gwefan.

“Anaddas ar gyfer Cymru fodern”

“Mae’r prosiect hwn yn gwbl anaddas ar gyfer Cymru fodern sy’n ceisio gwneud ei rhan i atal newid yn yr hinsawdd ac adeiladu dyfodol sy’n ddiogel ac yn gynaliadwy i genedlaethau iau,” meddai Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds AoS.

“Glo yw’r math mwyaf niweidiol o danwydd ar y blaned o hyd a bydd pwll glo newydd yn arwain at ryddhau allyriadau newydd ar yr union adeg yr ydym yn ceisio eu torri.

“Mae’r llygredd a achosir gan gloddio am lo a llosgi glo yn gwbl annerbyniol yn yr 21ain ganrif pan fo ystod eang o ddewisiadau amgen glanach yn bodoli.

“Nid yn unig y mae glo yn llygrydd, ond mae’r broses gloddio hefyd yn cyfrannu’n drwm at lygredd dŵr a gall ostwng byrddau dŵr, gan niweidio bywyd gwyllt, tir fferm a chyflenwadau dŵr yfed o’u hamgylch.”

“Cywilyddus”

Ychwanegodd Jane Dodds: “Yr hyn y dylai’r Llywodraeth fod yn ei wneud, yw buddsoddi mewn swyddi a sgiliau’r dyfodol, nid y gorffennol, gan gynnwys mewn swyddi gwyrdd a fydd yn darparu diogelwch ariannol hirdymor.

“Mae’n gywilyddus bod y Ceidwadwyr unwaith eto’n tanseilio datganoli yn yr achos hwn.

“Rhaid i bobl Cymru yn awr uno yn yr ymgyrch yn erbyn y pwll hwn a dangos i’r Llywodraeth Geidwadol fod Cymru’n haeddu bod ar flaen y gad yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd a’r economi werdd.

“Mae’n rhaid i ni adael byd gwell i’n pobl ifanc nag yr ydym ar hyn o bryd, ac mae rhan hanfodol o hynny’n gadael tanwydd ffosil yn y ddaear.”

Cefndir a hanes y safle

Cafodd pwll glo ei ailagor yn Aberpergwm yn 1996 ar ôl cael ei gau gan y Bwrdd Glo Cenedlaethol yn 1985.

Energybuild sy’n berchen y pwll, ac mae’r cwmni hwnnw’n eiddo Walter Energy yn yr Unol Daleithiau ers degawd.

Mae lle i gredu bod 7.6m tunnell o lo ar y safle yn 2011, gyda’r rhan fwyaf ohono’n mynd ar y pryd i safle gweithfeydd dur Tata ym Mhort Talbot.

Daeth y gwaith ar y safle i ben yn 2015, ac fe gafodd ei weithredu wedyn ar sail “gofal a chynnal a chadw”.

Mae Plas Aberpergwm ar y safle hefyd, a hwnnw’n arfer bod yn eiddo’r teulu Williams Aberpergwm.

Cafodd canolfan iechyd dau lawr ei godi ar safle’r golchdy, ac fe agorodd yn 2019 gan gynnig gwasanaethau iechyd integredig ar gyfer nifer o bentrefi cyfagos yng Nghwm Nedd dan reolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Meddygfa Cwm Nedd a Fferyllfa D R Cecil Jones.

Aberpergwm

Deiseb yn ceisio atal safle glofaol o’r newydd yng Nghwm Nedd

Mae disgwyl i’r Awdurdod Glo wneud penderfyniad am y safle yn Aberpergwm cyn bo hir