Mae gweithwyr graeanu ffyrdd yn dechrau streicio heddiw (dydd Mercher, 5 Ionawr).
Daw hyn ar ôl i Gyngor Sir Caerfyrddin dorri addewidion, yn ôl yr undebau llafur sy’n cynrychioli’r gweithwyr, gyda dros 50 o unigolion yn cymryd rhan yn y streic.
Bydd y cyfnod o weithredu diwydiannol cyntaf yn digwydd rhwng heddiw (5 Ionawr) ac yfory (dydd Iau, 6 Ionawr), gyda’r holl rwydwaith ffyrdd yn debygol o gael ei effeithio.
Ar ben hynny, bydd gweithredu yn ailddechrau ar 17 Ionawr tan 21 Ionawr, ac unwaith eto rhwng y 24 a 28 Ionawr.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi sicrhau’r cyhoedd fod trefniadau wrth gefn.
‘Ergyd drom’
Mae’r anghydfod yn deillio o gytundeb a gafodd ei arwyddo rhwng yr undeb a’r awdurdod yn 2020 a oedd yn rhestru nifer o addewidion i’r gweithwyr.
Ond ar ôl i adran briffyrdd y Cyngor dorri rhai o addewidion y cytundeb hwnnw, mae aelodau’r undebau yn anhapus.
Fe wnaeth 90% o aelodau GMB, un o’r undebau sy’n cynrychioli’r graeanwyr, bleidleisio o blaid gweithredu diwydiannol ar ôl i’r Cyngor “fethu ag anrhydeddu’r cytundeb.”
Roedd Peter Hill, trefnydd rhanbarthol undeb y GMB, yn dweud bod yr awdurdod yn “benderfynol” o ffraeo gyda’r gweithwyr.
“Mae’n siomedig iawn i’n haelodau ein bod ni’n cael ein hunain yn y sefyllfa hon eto,” meddai.
“Fe wnaethon ni arwyddo cytundeb gyda Sir Gaerfyrddin ddwy flynedd yn ôl, a’r cyfan rydyn ni’n ei ofyn yw eu bod nhw’n anrhydeddu’r hyn y gwnaethon nhw gytuno ag o.
“Dydy cadw at y cytundeb ddim yn costio dim byd i’r awdurdod. Rydyn ni wedi cyflwyno nifer o awgrymiadau cadarnhaol ar gyfer sut mae modd datrys yr anghydfod.
“Ond er gwaethaf misoedd o sgyrsiau, mae’r awdurdod yn benderfynol o anghytuno gyda’n haelodau.
“Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae ein haelodau wedi gweithio’n ffyddlon trwy gydol y pandemig, ac mae hyn yn ergyd drom iddyn nhw.
“Yn Sir Gaerfyrddin nawr mae gwir berygl o orfod cau’r holl rwydwaith ffyrdd y gaeaf hwn ar ôl i’r cyngor dorri ei addewid i weithwyr.”
‘Gwerthfawrogi cyfraniad ein gweithwyr’
Ar y llaw arall, mae Cyngor Sir Gâr yn honni bod y cytundeb, a gafodd ei arwyddo ddwy flynedd yn ôl, yn “cydnabod y cyfraniad gwerthfawr mae gweithwyr y Cyngor yn ei wneud” ac yn “rhoi pecyn tâl iddynt sydd gyda’r uchaf yng Nghymru.”
Dywedon nhw y byddai rhwydwaith o 17 prif ffordd yn cael eu heffeithio gan y gweithredu ac roedden nhw hefyd yn rhybuddio gyrwyr i fod yn ymwybodol o’r newidiadau a gyrru’n gyfrifol dros yr wythnosau nesaf.
“Mae’r Cyngor yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi cyfraniad ein gweithwyr wrth helpu i sicrhau bod y rhwydwaith ffyrdd yn cael ei drin yn ystod misoedd y gaeaf, er mwyn darparu rhwydwaith ffyrdd diogel i’r cyhoedd, busnesau, a’r gwasanaethau brys,” meddai’r Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd.
“Daeth y Cyngor i gytundeb ffurfiol gyda’r undebau llafur yn 2020 ynghylch dyletswyddau cynnal a chadw’r priffyrdd dros y gaeaf.
“Roedd y cytundeb yn cydnabod cyfraniad gwerthfawr ein gweithwyr ac yn rhoi pecyn tâl iddynt sydd gyda’r uchaf yng Nghymru.
“Mae’r Cyngor wedi cadw at delerau ac amodau’r cytundeb a drefnwyd, ac mae bob amser wedi mynd ati i helpu ein gweithwyr i ddarparu rhwydwaith ffyrdd diogel i’n cymunedau, busnesau, a gwasanaethau brys, cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol.
Cynnig newydd
Er mwyn osgoi gweithredu diwydiannol a sicrhau gwasanaeth cyson, mae’r Cyngor wedi cyflwyno cynnig diwygiedig “rhesymol iawn” i’r gweithwyr, ond mae’r undebau wedi gwrthod trafod hwnnw hyd yn hyn.
“Mae hwn yn gyfnod heriol dros ben wrth i COVID barhau i effeithio ar gymunedau ac adnoddau o ran gweithwyr,” meddai Hazel Evans.
“Mae’r cynnig ar gael i’n gweithwyr o hyd, ac ar y bwrdd i’w drafod gyda’n hundebau llafur. Rydym yn gobeithio, er budd ehangach ein cymunedau, y bydd ein gweithwyr yn rhoi ystyriaeth briodol i’r cynnig.
“Yn y cyfamser bydd y Cyngor yn gweithredu ei gynllun wrth gefn i wneud gwaith graeanu ar rwydwaith llai.”