Mae cofeb i gofio’r 22 o bobl gafodd eu lladd yn ymosodiad brawychol Arena Manceinion wedi agor yn swyddogol i’r cyhoeddi heddiw (dydd Mercher, 5 Ionawr).
Mae’r cylch marmor gwyn yn cynnwys enwau’r rhai gafodd eu lladd yn y digwyddiad ym mis Mai 2017.
Yn ogystal â’r 22 fu farw, cafodd cannoedd o bobl eu hanafu yn yr ymosodiad gan yr hunan-fomiwr Salman Abedi ar ddiwedd cyngerdd Ariana Grande yn yr Arena.
Mae teuluoedd y rhai gafodd eu lladd wedi cael gosod negeseuon a lluniau personol o fewn y gofeb. Maen nhw hefyd wedi cael y cyfle i ymweld â’r gofeb yn breifat cyn iddi agor i’r cyhoedd.
Dywedodd arweinydd Cyngor Sir Manceinion Bev Craig: “Wnawn ni byth anghofio’r rhai hynny a gollodd eu bywydau ar 22 Mai 2017.
“Roedden nhw eisoes wedi cael lle parhaol yng nghalonnau pobl Manceinion. Nawr mae ganddyn nhw gofeb barhaol yng nghanol ein dinas.”
Ychwanegodd: ““Rydyn ni’n gobeithio y bydd y safle yn lle sy’n cynnig heddwch a chysur, gan ein hatgoffa bod cariad yn gryfach na chasineb.”
Mae digwyddiad wedi’i drefnu i agor y safle yn swyddogol yn y gwanwyn eleni, cyn nodi pum mlynedd ers yr ymosodiad.