Mae arweinydd y Blaid Lafur, Syr Keir Starmer, wedi profi’n bositif am Covid-19 ddiwrnod ar ôl araith yn nodi ei weledigaeth ar gyfer Llywodraeth Lafur.
Yn ei araith, dywedodd ei fod yn awyddus i ysgrifennu “pennod newydd” yn hanes ei blaid.
Bydd Syr Keir Starmer yn methu Cwestiynau’r Prif Weinidog heddiw (5 Ionawr), gyda’r dirprwy arweinydd, Angela Rayner, yn camu i mewn i wynebu Boris Johnson.
Fe wnaeth arweinydd y Blaid Lafur brofi’n bositif am Covid-19 ar ddiwrnod y Gyllideb ym mis Hydref.
Nid oes ganddo unrhyw symptomau Covid-19 ond cafodd yr haint ei nodi fel rhan o’i drefn brofi reolaidd.
Bydd y prawf positif yn golygu mai dyma’r chweched cyfnod hunanynysu y mae wedi gorfod ei gwblhau ers dechrau’r pandemig.
Ddydd Mawrth (4 Ionawr), bu Syr Keir yn annerch cynulleidfa yn Birmingham lle addawodd “arweinyddiaeth onest” os caiff ei blaid ei dychwelyd i rym.