Mae llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud bod y sefyllfa bresennol i fyrddau iechyd yn teimlo “fel dominos yn disgyn ar draws y wlad.”
Daw hyn yn sgil prinder cynyddol o staff yn dilyn achosion o Covid-19, yn ogystal â bylchau parhaus yn y gweithlu oherwydd diffyg recriwtio.
Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yng Ngwent oedd y diweddaraf i gyfyngu ar wasanaethau cyhoeddus ddydd Llun, 3 Ionawr, a hynny oherwydd y pwysau ar staff.
Oherwydd prysurdeb, gofynnodd y bwrdd iechyd i’r cyhoedd beidio â mynychu’r uned mân anafiadau yn Ysbyty Ystrad Fawr, Ystrad Mynach, oni bai ei bod hi’n angenrheidiol.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Bae Abertawe y byddan nhw ond yn cynnig gwasanaeth cyfyngedig yn ystod y penwythnos Gŵyl y Banc diweddaraf, tra bod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr hefyd wedi gohirio triniaethau i rai cleifion cyn y Nadolig.
Cafodd ei ddatgelu gan y Ceidwadwyr Cymreig y llynedd bod gan y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru bron i 3,000 o swyddi gofal iechyd gwag, llawer ohonyn nhw ymhlith nyrsys a bydwragedd.
‘Peryglus’
Yn ddiweddar, dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George, bod “prinder peryglus o staff” yn y Gwasanaeth Iechyd sy’n achosi “amseroedd aros peryglus.”
“Mae’n destun pryder gweld y Gwasanaeth Iechyd – rhywbeth rydyn ni i gyd yn ei drysori ac yn talu amdano – yn dod i sefyllfa lle na all fod ar ei orau i’r cyhoedd, yn enwedig gwasanaethau y mae’r Llywodraeth Lafur yn ceisio ein cael ni i’w defnyddio yn lle adrannau brys,” meddai’r Aelod o’r Senedd Ceidwadol.
“Rydyn ni’n gwybod bod toriadau i’r gwasanaeth iechyd ddim yn digwydd oherwydd niferoedd cleifion a marwolaethau Covid, ond oherwydd bod staff sydd â’r firws yn gorfod hunanynysu.
“Yn y pen draw, bydd hyn yn digwydd heb i staff fod yn absennol – dyna beth fydd byw gyda’r firws yn ei olygu.
“Yn hwyr neu’n hwyrach, byddwn yn rhoi’r gorau i siarad am adfer o’r pandemig, ac yn gwneud hynny gyda chonsensws gwleidyddol.
“Ni ddylem anghofio bod 3,000 o swyddi gwag yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wedi golygu prinder staff cronig yn y gwasanaeth sy’n cael ei redeg gan Lafur ers blynyddoedd.
“Mae’r methiant i staffio adrannau damweiniau ac achosion brys hyd yn oed pan oedd achosion o Covid mewn ysbytai yn isel yn dangos bod Llafur wedi colli ei gafael ar y Gwasanaeth Iechyd, a hynny er anfantais i bawb.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae’r Gwasanaeth Iechyd ar draws y Deyrnas Unedig dan bwysau difrifol oherwydd absenoldebau staff sy’n cael eu hachosi gan y pandemig – nid yw’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn wahanol.
“Rydym yn gwerthfawrogi ymdrechion pawb wrth iddynt barhau i ddarparu gofal yn yr amgylchiadau anodd hyn i bawb sydd ei angen.
“Mae gan bob bwrdd iechyd gynlluniau ar waith i ymateb i bwysau’r gaeaf a’r pandemig, sy’n cynnwys sicrhau bod adrannau brys yn cael eu staffio gan weithlu amlddisgyblaethol i ateb y galw disgwyliedig.
“Mae salwch staff ac absenoldebau sy’n gysylltiedig â Covid wedi cael effaith sylweddol ar lefelau staffio dros y misoedd diwethaf, ond rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gan adrannau damweiniau ac achosion brys nifer sylweddol o staff i sicrhau gofal diogel i bobl.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu’r nifer uchaf erioed o staff y Gwasanaeth Iechyd – cynnydd o 53% dros yr 20 mlynedd diwethaf – a mwy o nyrsys cymwys, ymgynghorwyr ysbyty a staff ambiwlans nag erioed o’r blaen.
“Y llynedd, cyhoeddwyd y lefelau uchaf erioed o fwy na £260m ar gyfer hyfforddi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru.
“Mae hyn yn dangos ein hymrwymiad i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o weithwyr gofal iechyd a darparu’r gwydnwch a’r gallu angenrheidiol i Wasanaeth Iechyd Cymru.”