Mae Sinn Fein yn galw am adalw Cynulliad Stormont wrth i Ogledd Iwerddon fynd i’r afael â’r don ddiweddaraf o’r pandemig coronafeirws.

Mae Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd Colm Gildernew hefyd wedi gofyn am alw’r pwyllgor iechyd yn ôl er mwyn holi’r Gweinidog Iechyd Robin Swann.

Daw hyn wrth i Brif Ymgynghorydd Gwyddonol Gogledd Iwerddon, Ian Young ddweud ei fod yn debygol fod un ymhob deg mewn rhai ardaloedd yn byw â Covid-19 dros y Nadolig.

Datgelodd y ffigyrau diweddaraf gan yr Adran Iechyd, a gyhoeddwyd ddydd Mawrth, 15 marwolaeth arall o gleifion a oedd wedi profi’n bositif, ynghyd â 30,423 o achosion eraill.

Dywedodd yr Athro Young ei fod yn disgwyl i’r don o achosion Omicron gyrraedd ei brig o fewn yr wythnosau nesaf gan weld effaith yr amrywiolyn ar ysbytai erbyn diwedd mis Ionawr.

Ysgolion

Mae undebau athrawon wedi rhybuddio wrth i ddisgyblion ddychwelyd i’r ysgol fe fydd yna gynnydd mewn achosion gan arwain at ddiffyg staffio.

Mae Cadeirydd Pwyllgor Iechyd Cynulliad Stormont wedi dweud bod y ffigyrau diweddaraf “yn hynod bryderus.”

Dywedodd fod y don ddiweddaraf yn cyflwyno heriau ar draws cymdeithas o ran absenoldebau staff yn y gwasanaeth iechyd yn ogystal ac mewn ysgolion.

“Rydym yn awyddus iawn, iawn i gadw ysgolion ar agor mewn modd diogel, ac yng ngoleuni hynny mae fy nghyd-aelod Pat Sheehan wedi cyflwyno cynnig sy’n galw am alw’r  Cynulliad yn ôl i drafod sut y bydd y mater yn cael ei reoli o ran ysgolion fel rhan o’r darlun cyffredinol,” meddai.

“Rwyf hefyd wedi gofyn i’r Pwyllgor Iechyd gael ei alw’n ôl fel y gallwn gymryd barn y gweinidog ynglŷn â ble mae pethau ar hyn o bryd, a sut rydym yn mynd i symud ymlaen mewn ffordd sy’n cefnogi staff a gwasanaethau diogelu.”

Diffyg profion llif unffordd

Yn y cyfamser, mae cadeirydd Community Pharmacy NI, y cwmni sy’n cynrcyhioli fferyllfeydd yng Ngogledd Iwerddon, wedi dweud bod prinder profion llif unffordd a bod dim digon i gwrdd a’r galw.

Mae modd archebu profion ar-lein gan y llywodraeth neu eu casglu mewn rhai fferyllfeydd.

Dywedodd Peter Rice mai dim ond un bocs o brofion llif unffordd y dydd y mae pob fferyllfa yn ei gael, sy’n cael eu dosbarthu o fewn awr, gan adael fferyllfeydd heb gyflenwad digonol.

“Mae’r amrywiolyn Omicron wedi arwain at gynnydd sylweddol mewn achosion a hefyd newid sylweddol yn y galw am y profion, felly yn hytrach na phrofion PCR mae pobl bellach eisiau profion llif unffordd ac mae hynny wedi cynyddu’r galw mewn gwirionedd ac wedi golygu na allwn gael y profion yn ddigon cyflym i fodloni’r hyn y mae’r cwsmeriaid ei eisiau,” meddai.