Mae dioddefwr y pedoffeil Barry Bennell wedi sicrhau setliad ariannol pum ffigwr gan gyn-berchnogion parc gwyliau Butlins.

Fe wnaeth y cyn-hyfforddwr pêl-droed feithrin perthynas amhriodol â David Lean, sydd nawr yn 53 oed, pan oedd yn gweithio yn y parc gwyliau ym Mhwllheli.

Fe wnaeth David Lean, a oedd yn 11 oed ar y pryd, gyfarfod cyn-hyfforddwr Crewe Alexandra am y tro cyntaf wrth ymweld â Butlin’s Pwllheli yn 1979.

Dywedodd David Lean fod Bennell wedi “defnyddio ei swyn” arno ef a’i dad, ac ar ôl gwyliau o wythnos fe wnaethon nhw gyfnewid cyfeiriadau, dechrau ysgrifennu at ei gilydd yn gyson, a dychwelyd am wyliau arall y flwyddyn ganlynol.

Fe wnaeth Bennell, sydd yn y carchar ar ddedfryd o 34 mlynedd ar ôl cael ei gyhuddo o droseddau rhyw yn erbyn bechgyn ifanc, wahodd David Lean i aros yn ei gartref am ddwy noson er mwyn gallu mynd i sesiwn hyfforddi pêl-droed oedd wedi’i chymeradwyo gan yr FA.

Cafodd David Lean ei gam-drin yn rhywiol gan Bennell pan oedd yn aros yn ei gartref.

“Rhaid dysgu gwersi”

Fe wnaeth cyfreithwyr David Lean, Slater & Gordon, ddechrau achos sifil yn erbyn Hard Rock Cafe (Edinburgh) Limited, Butlin’s Limited gynt, gan honni fod y cwmni’n gyfrifol am y gamdriniaeth ar ran Bennell.

Dywedodd David Lean: “Dw i wedi cwffio am sawl blwyddyn i geisio cyfiawnder am yr hyn ddigwyddodd i fi fel plentyn gan y bwystfil hwnnw.

“Daeth hi’n eithriadol o bwysig i fi sicrhau bod pawb oedd a rôl i’w gwneud hi’n bosib i Bennell gyflawni ei gamdriniaeth ar fechgyn ifanc hefyd yn cael eu dwyn i gyfrif.

“Rhaid dysgu gwersi er mwyn atal cenedlaethau’r dyfodol rhag cael eu cam-drin; ni ddylai neb gael yr hawl i smalio nad ydyn nhw’n sylwi a pheidio wynebu’r goblygiadau.

“Er na wnaeth fy nghamdriniaeth rywiol ddigwydd yn Butlin’s erioed, fe wnaethon nhw roi modd i fy nghamdriniwr feithrin perthynas gyda fi a’m rheini er mwyn cael mynediad ataf i wedyn, pan gefais fy ngham-drin.”

Dywedodd Kim Harrison, prif gyfreithiwr David Lean, ei bod hi “wrth ei bodd” yn sicrhau’r setliad pum ffigwr iddo.

“Roedd Barry Bennell yn bedoffeil amlwg a ddefnyddiodd ei safle yn Butlin’s i feithrin perthynas amhriodol ac yna mynd ymlaen i gam-drin ein cleient.”

Fe wnaeth llefarydd ar ran Hard Rock wrthod gwneud sylw am y setliad.