Fe wnaeth marwolaethau’n ymwneud â Covid-19 yng Nghymru ostwng eto yn yr wythnos cyn y Nadolig, ond mae hi dal yn rhy gynnar i weld effaith bosib Omicron ar yr ystadegau.

Yn yr wythnos yn dod i ben ar 24 Rhagfyr 2021, cafodd Covid-19 ei grybwyll ar dystysgrifau marwolaeth 33 o bobol yng Nghymru yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Roedd hynny’n ostyngiad o 35.3% o gymharu â’r 51 marwolaeth yn ystod yr wythnos flaenorol.

Cafodd 827 o farwolaethau eu cofnodi yng Nghymru yn yr wythnos cyn y Nadolig, sydd 15.2% yn uwch na’r cyfartaledd dros bum mlynedd (109 marwolaeth ychwanegol).

Mae hynny’n golygu bod Covid-19 wedi cael ei grybwyll ar dystysgrifau ychydig o dan 4% o bobol yng Nghymru yn yr wythnos yn gorffen 24 Rhagfyr.

Dyma’r bumed wythnos i nifer marwolaethau Covid-19 Cymru ostwng yn olynol, a dyma’r cyfanswm isaf ers yr wythnos yn gorffen 3 Medi, pan gafodd 25 o farwolaethau eu cofnodi.

Rhwng yr wythnos yn gorffen 13 Mawrth 2020 a 24 Rhagfyr 2021, roedd nifer y marwolaethau ychwanegol o gymharu â’r cyfartaledd dros y bum mlynedd flaenorol yn 6,949 yng Nghymru.

Mae marwolaethau wedi aros yn gymharol isel drwy gydol ton ddiweddaraf Covid, ond mae hi’n rhy gynnar i ddweud a yw’r cynnydd mewn achosion yn sgil amrywiolyn Omicron yn effeithio ar nifer y marwolaethau.

Gan amlaf mae bwlch o tua dwy i dair wythnos rhwng dal yr haint, person yn cael eu derbyn i’r ysbyty, a marw.