Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ymddiheuro am achosi pryder drwy fethu ag egluro’n ddigonol y newidiadau i sgrinio ceg y groth.

Mewn llai na 24 awr mae dros 175,000 wedi arwyddo deiseb yn galw am gadw profion sgrinio ceg y groth arferol bob tair blynedd yn hytrach na bob pum mlynedd.

Daw hyn wedi i Sgrinio Serfigol Cymru gyhoeddi’r newid oherwydd llwyddiant profion firws papiloma dynol (HPV).

Mae’r newid ar gyfer menywod rhwng 25 a 49 oed, lle nad yw HPV i’w weld yn eu prawf sgrinio serfigol (smear).

Mae hyn yn dilyn argymhelliad gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y Deyrnas Unedig a ddaeth i rym ar 1 Ionawr 2021.

Mae’r estyniad, o dair mlynedd i bum mlynedd, yn golygu bod y cyngor ar gyfer y grŵp oedran hwn yn unol â’r cyfnod sgrinio ar gyfer y grŵp 50-64 oed.

Mae’r newid yn golygu y bydd llythyrau canlyniadau sy’n cael eu danfon o 1 Ionawr yn cynghori derbynwyr y bydd eu hapwyntiad nesaf i ddilyn ymhen pum mlynedd.

Ymddiheuro am aneglurder

Ond mae’r cyhoeddiad wedi arwain at bryder a sefydlu deiseb ar-lein sy’n honni bod cynyddu’r amser rhwng sgrinio serfigol yn “peryglu bywydau”.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ymddiheuro gan ddweud eu bod wedi methu “esbonio’r newidiadau” ac addo eu bod “yn gweithio i wneud hyn yn gliriach”.

Fe ddywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ar eu cyfrif Twitter: “Mae’n ddrwg gennym nad ydym wedi gwneud digon i esbonio’r newidiadau i sgrinio ceg y groth ac wedi achosi pryder.

“Rydym yn gweithio i wneud hyn yn gliriach a bydd mwy o wybodaeth ar gael cyn gynted ag y gallwn heddiw ac yn y dyddiau nesaf.”

Mae’r Aelod Seneddol Llafur, Alex Davies-Jones, wedi mynegi ei phryder ac wedi ysgrifennu at Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Fe ddywedodd yr Aelod dros Bontypridd: “Bydd llawer o bobl wedi gweld y cyhoeddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, a’r ddeiseb ddilynol, am y cynllun i gynyddu’r bwlch rhwng apwyntiadau sgrinio serfigol o 3 i 5 mlynedd os na chanfyddir HPV yn eich sgrinio rheolaidd,” meddai.

“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru bellach wedi ymddiheuro a chyfaddef nad yw wedi gwneud digon i esbonio’r rhesymau dros y newid hwn. Gwn o’m profiad fy hun pa mor bwysig y gall sgrinio serfigol fod, cefais ddiagnosis o Cin3, ond yn negyddol ar gyfer HPV yn fy mhrawf cyntaf yn 26.”

“Tawelwch meddwl”

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried y penderfyniad i roi “tawelwch meddwl” i fenywod yng Nghymru.

“Er fy mod yn falch o weld gwiriadau HPV yn dod yn fwy dibynadwy ac effeithiol, rwy’n ei chael yn anodd gweld pam mae angen y newid hwn,” meddai Gweinidog Iechyd Cysgodol y Ceidwadwyr, Russell George.

“Gobeithio nad yw’r Llywodraeth Lafur yn defnyddio hyn fel cyfle i arbed ceiniogau, oherwydd dim ond os cânt eu cynnal yn fwy rheolaidd y bydd profion yn fwy effeithiol.

“Mae’r modd mae’r ddeiseb hon wedi’i chychwyn yn dangos teimladau cryfion fod angen i’r Llywodraeth Lafur i ailystyried y newidiadau y maent yn bwriadu eu gwneud er alles achub bywydau.”

Mae Rhys ab Owen Aelod Canol De Cymru dros Blaid Cymru wedi ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, i’w hannog i wrthdroi’r penderfyniad.

Gyda chopi o’i lythyr, mae’n nodi: “Mae fy swyddfa wedi derbyn llawer o ohebiaeth dros nos yn ymwneud â newidiadau diweddar i’r cyfnod sgrinio serfigol yng Nghymru ar gyfer y rhai 25-49 oed,” meddai.

“Rwyf wedi ysgrifennu at y Gweinidog y bore yma yn ei hannog hi ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i wrthdroi’r penderfyniad.”

Yn ei lythyr mae’n ychwanegu ei fod yn “amlwg fod yna bryder a gwrthwynebiad amlwg ymysg aelodau’r cyhoedd”.

Mae Golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.

Ymestyn y bwlch rhwng profion sgrinio serfigol o dair blynedd i bum mlynedd

Sgrinio Serfigol Cymru wedi ymestyn y bwlch i bobol 25 i 49 oed yn sgil llwyddiant profion HPV