Nid yw 10% o staff y GIG a diffoddwyr tân Gogledd Cymru ar gael i weithio, a hynny’n bennaf oherwydd lledaeniad cyflym yr amrywiolyn Omicron.
Ar hyn o bryd dyw dros 600 o staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddim yn y gwaith oherwydd materion sy’n ymwneud â Covid, naill ai am eu bod yn sâl neu’n hunanynysu.
Yn y cyfamser, mae Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru wedi dweud ei bod wedi cael trafferthion dros gyfnod yr ŵyl gyda 12% o staff ddim yn y gwaith, ffigwr sydd bellach wedi gostwng i 10%.
Mae’r gwasanaeth ambiwlans hefyd wedi recriwtio 150 o bersonél milwrol ychwanegol y mis hwn i gryfhau ei niferoedd.
Dywedodd Sue Green, cyfarwyddwr gweithredol datblygu’r gweithlu a’r sefydliad yn Betsi Cadwaladr: “Ar hyn o bryd mae gennym dros 600 o bobl i ffwrdd o’r gwaith oherwydd materion sy’n ymwneud â Covid, sy’n cyfateb i bron i 4% o’n gweithlu.
“Nid yw cyfanswm o tua 10% o’n gweithlu ar gael ar gyfer dyletswydd, sydd efallai’n ganlyniad y pwysau cynyddol y mae pawb wedi gorfod eu hwynebu drwy gydol y pandemig.
“Rydym yn hynod ddiolchgar am ymroddiad ein staff, sydd wedi gohirio absenoldeb ac sy’n gweithio oriau ychwanegol i sicrhau ein bod yn gallu parhau i ddarparu gwasanaethau i gleifion.”
Dywedodd y bwrdd iechyd y gall cleifion helpu i leddfu’r straen drwy gael eu brechlyn atgyfnerthu a chael triniaeth frys pan fo hynny’n briodol.
Mae’r GIG yn cynghori pobl i dderbyn triniaeth am fân anafiadau ac afiechydon mewn fferyllfeydd lleol, unedau mân anafiadau, neu drwy wiriwr symptomau’r GIG.
“Ymdrechion eithriadol”
Cafwyd darlun tebyg gan brif swyddog cynorthwyol Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru, Richard Fairhead.
“Mae’r sefyllfa wedi gwella ychydig o gymharu â’r wythnos ddiwethaf pan oedd tua 12% o’n staff yn absennol oherwydd Covid – mae hynny bellach wedi gostwng i 10%,” meddai.
“Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol iawn bod cyfraddau heintio yn parhau’n uchel ac rydym yn parhau i baratoi ar gyfer absenoldebau ac i weithio gyda’n gorsafoedd tân i gynnal criwiau gweithredol.
“Rydym wedi gallu parhau i ddarparu’r un gwasanaeth gweithredol ag arfer diolch i ymdrechion eithriadol ein staff ac nid ydym wedi troi at uno adrannau na rhannu adnoddau.”
Gwasanaeth Ambiwlans Cymru dan bwysau
Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru dan bwysau tebyg.
Dywedodd Lee Brooks, cyfarwyddwr gweithrediadau: “Mae ein cyfraddau absenoldeb sy’n gysylltiedig â Covid yn tueddu i adlewyrchu’r hyn a welwn yn y gymuned, felly ar hyn o bryd, mae nifer y staff nad ydynt yn gallu mynychu’r gwaith wedi bod yn cynyddu’n gyson.
“Mae’r ymddiriedolaeth wedi derbyn cymorth gan y fyddin ac o ganlyniad rydym wedi gallu rhoi mwy o ambiwlansys ar ddyletswydd fel y gallwn gyrraedd mwy o gleifion, yn gyflymach, tra bod y pwysau eithafol yn parhau.”