Mae Llywodraeth Cymru yn “rhagweld cyfnodau o darfu ar ddysgu wyneb yn wyneb i rai dros yr wythnosau nesaf”, meddai’r Gweinidog Addysg.

Yn ôl Jeremy Miles, mae Llywodraeth Cymru wedi ailadrodd y dylai ysgolion gadw unrhyw gyfnodau o ddysgu o bell i’r hyd lleiaf posib.

Mae pob ysgol yng Nghymru yn cael deuddydd i gynllunio ar ddechrau’r tymor hwn cyn ailddechrau, gan ddefnyddio’r amser i asesu lefelau staffio a rhoi mesurau ar waith i gefnogi disgyblion.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i ysgolion gynllunio ar gyfer y mesurau mwyaf amddiffynnol posib, a gallai’r rhain gynnwys defnyddio systemau unffordd a chynlluniau eistedd cyson lle bo hynny’n ymarferol.

Gallai’r mesurau hefyd gynnwys defnyddio grwpiau cyswllt, peidio dod â grwpiau mawr ynghyd – er enghraifft ar gyfer gwasanaethau – defnyddio mannau awyr agored addas, ac oedi chwaraeon tîm.

Maen nhw hefyd yn rhoi’r opsiwn i ysgolion amrywio amseroedd cychwyn a gorffen fel cam lliniaru ychwanegol – os yw asesiad yn cefnogi hynny.

Yn ogystal, mae hi’n ofynnol i staff a dysgwyr ysgolion uwchradd wisgo gorchuddion wyneb yn yr ysgol, gan gynnwys mewn dosbarthiadau.

“Cyfnodau o darfu”

Yn ôl Jeremy Miles, mae’r don bresennol o achosion Covid yn datblygu fel roedd y modelu wedi’i ragweld.

Er bod y data gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod achosion o coronafeirws ymhlith plant 5 i 16 oed yn gostwng yn yr wythnosau cyn y gwyliau Nadolig, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fonitro’r data’n ofalus, meddai.

“Mae nifer yr achosion yn cynyddu, ac mae lefelau uchel o drosglwyddo cymunedol,” meddai Jeremy Miles.

“Bydd hyn, ochr yn ochr ag absenoldebau staff oherwydd salwch arall, yn parhau i effeithio ar ddarpariaeth ysgolion dros yr wythnosau nesaf.

“Er ein bod yn rhagweld cyfnodau o darfu ar ddysgu wyneb yn wyneb i rai dros yr wythnosau nesaf, rydym wedi ailadrodd i ysgolion a cholegau y dylid cadw unrhyw gyfnodau o ddysgu o bell i’r hyd lleiaf posib.

“Bydd ysgolion hefyd yn canolbwyntio’n benodol ar gefnogi dysgwyr mewn blynyddoedd arholiadau, plant gweithwyr hanfodol a phlant sy’n agored i niwed wrth adolygu a diwygio eu cynlluniau wrth gefn.”

Prinder staff

Mae’r drefn ar gyfer ailagor yn wahanol ymhob awdurdod lleol, ond eisoes mae hi’n bosib na fydd rhai ysgolion yn Sir y Fflint a Wrecsam yn ailagor ar gyfer dysgu wyneb yn wyneb ddydd Llun (10 Ionawr) fel y bwriad.

Mae pryderon wedi cael eu codi ynghylch prinderau staff yno, ac mae undeb arweinwyr ysgolion, NAHT Cymru, yn dweud y bydd ysgolion yn cymryd bob dydd fel mae’n dod.

“Bydd symud yn ôl at ddysgu o bell yn ddewis olaf ond bydd yn cael ei benderfynu gan argaeledd staff,” meddai Laura Doel, cyfarwyddwr NAHT Cymru.

“Os yw hyn angen digwydd, rhaid bod yn realistig am y lefel o gefnogaeth i’r fath drefn.

“Mae ysgolion yn paratoi i gefnogi dysgwyr o gartref, ond os nad yw eu hathrawon ar gael i ddysgu nhw yn y dosbarth, yna ni fyddan nhw ar gael i ddysgu ar-lein.

“O ystyried yr amgylchiadau eithriadol o heriol sy’n wynebu ein hysgolion, rydyn ni’n annog Llywodraeth Cymru i liniaru’r pwysau ychwanegol ar ysgolion – fel ailgyflwyno arolygon a chynlluniau i ddiwygio’r diwrnod neu’r flwyddyn ysgol, a chaniatáu i ysgolion ganolbwyntio ar eu prif bwrpas, sef dysgu ac addysgu.”

Mae Jeremy Miles wedi dweud bod Llywodraeth Cymru’n parhau i weithio’n agos gydag awdurdodau lleol ac asiantaethau cyflenwi i helpu i leddfu’r pwysau staffio.

“Mae’r fenter newydd a roddodd 400 o athrawon newydd gymhwyso mewn swyddi cyflogedig mewn ysgolion yn ystod tymor yr hydref hefyd wedi creu capasiti mewn ysgolion ac wedi galluogi’r unigolion hyn i gael profiad pellach,” meddai.

“Rydym wedi ymestyn y cynllun a bydd yr athrawon hyn yn parhau yn eu swyddi ar gyfer y tymor sydd i ddod.”

£100m o gyllid i wneud ysgolion a cholegau yn Covid-ddiogel

“Bydd y cyllid hwn yn cefnogi ein hysgolion a’n colegau ymhellach i gadw’r lleoliadau mor ddiogel â phosibl o ran Covid”

Marwolaethau Covid-19 Cymru wedi parhau i ostwng yn yr wythnos cyn y Nadolig

Mae hi’n dal rhy gynnar i ddweud a yw’r cynnydd mewn achosion Covid yn sgil amrywiolyn Omicron yn effeithio ar nifer y marwolwethau