Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd ysgolion a cholegau yn derbyn £103m o gyllid wrth i ddysgwyr ddychwelyd ar gyfer y tymor newydd mis yma.

Bydd £50m yn cael ei ddarparu drwy law’r awdurdodau lleol drwy’r rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu.

Bwriad yr arian yw helpu ysgolion i wneud gwaith atgyweirio a gwella cyfalaf, gan ganolbwyntio ar fesurau iechyd a diogelwch, fel gwella awyru.

Bydd yr arian hefyd yn cael ei ddefnyddio i gefnogi datgarboneiddio.

Cwricwlwm newydd

Ar ben hynny, dywed Llywodraeth Cymru y bydd £45m o gyllid refeniw yn helpu i gefnogi cyllidebau ysgolion, gan gynorthwyo ysgolion wrth iddyn nhw barhau i ddelio ag effeithiau parhaus y pandemig a pharatoi ar gyfer gofynion y cwricwlwm newydd.

Bydd £8m ychwanegol yn cael ei ddarparu i golegau addysg bellach, er mwyn sicrhau bod dysgu’n gallu parhau’n ddiogel a sicrhau nad yw’r pandemig yn effeithio ymhellach ar y dysgwyr mwyaf difreintiedig.

‘Cynaliadwyedd’

“Rwy’n gwybod bod ysgolion a cholegau wedi wynebu cyfnod anodd iawn ac mae pawb ar draws y gweithlu wedi gweithio’n eithriadol galed i gwrdd â heriau’r pandemig,” meddai Jeremy Miles, Ysgrifennydd Addysg Cymru.

“Bydd y cyllid hwn yn cefnogi ein hysgolion a’n colegau ymhellach i gadw’r lleoliadau mor ddiogel â phosibl o ran Covid.

“Er ein bod ni eisiau cefnogi’r sector i adfer o’r pandemig, mae’n rhaid i ni hefyd sicrhau ein bod yn parhau i gynllunio ar gyfer y dyfodol, a helpu pob lleoliad addysg ledled Cymru i gyflawni ein nodau ar y cyd o wneud Cymru’n genedl sero net.

“Bydd y cyllid a gyhoeddwyd heddiw yn ein helpu i sicrhau cynaliadwyedd ar draws y sector – boed yn gynaliadwyedd amgylcheddol a gyflawnir drwy ddatgarboneiddio, neu gynaliadwyedd o ran darpariaeth.”