Mae dyn o Balesteina wedi rhoi’r gorau i ymprydio ar ôl 140 o ddiwrnodau wrth iddo brotestio yn erbyn cael ei gadw dan glo heb ei gyhuddo.
Daw hyn wrth i Hisham Abu Hawash, dyn 40 oed sy’n dad i bump o blant ac yn Islamydd Jihadaidd, ddod i gytundeb ag Israel i gael mynd yn rhydd fis nesaf.
Fe yw’r Palestiniad diweddaraf i ymprydio er mwyn protestio yn erbyn bod yn y ddalfa heb gyhuddiad yn ei erbyn – cam sy’n “angenrheidiol” ar gyfer diogelwch y wlad, yn ôl Israel.
Mae Israel bellach wedi cytuno y gall fynd yn rhydd ar Chwefror 26, ond dydyn nhw ddim wedi gwneud sylw pellach.
Fe fu protestiadau’n cefnogi Abu Hawash yn y Lan Orllewinol a Llain Gaza. ac roedd Islamyddion Jihadaidd yn bygwth gweithredu’n filwrol pe bai’n marw yn y ddalfa.
Llysoedd milwrol Israel sy’n gyfrifol am gyfiawnder yn ymwneud â’r 2.5m o Balestiniaid yn y Lan Orllewinol, tra bod Iddewon yn yr un ardaloedd yn destun rheolau system gyfiawnder sifil Israel.
Cafodd y Lan Orllewinol ei meddiannu gan Israel yn ystod rhyfel chwe niwrnod yn 1967, ac mae Palestiniaid yn awyddus iddi fod yn rhan o unrhyw wladwriaeth yn y dyfodol.
Dalfa weinyddol
Fel rhan o ddalfa weinyddol, sydd ond yn cael ei defnyddio i gosbi Iddewon yn aml iawn, gall unrhyw un sydd wedi’i amau o drosedd fod yn ddalfa am fisoedd lawer heb ei gyhuddo, a heb weld tystiolaeth o drosedd.
Mae Israel yn trin Islamyddion Jihadaidd, sydd wedi lladd degau o Israeliaid, fel grŵp brawychol.
Yn ôl Israel, mae’n rhaid gweithredu yn y modd maen nhw’n gweithredu er mwyn gwarchod diogelwch cenedlaethol rhag i gudd-wybodaeth ddod yn gyhoeddus.
Ond mae grwpiau hawliau dynol yn Israel ac yn rhyngwladol yn dadlau bod yr unigolyn yn colli’r hawl i broses gyfiawn.