Yn Llys y Goron Casnewydd, mae achos wedi dechrau yn erbyn pedwar dyn a llanc sydd wedi’u cyhuddo o lofruddio dyn 26 oed a dwyn bag Gucci.

Cafwyd hyd i Ryan O’Connor o Gasnewydd yn anymwybodol yn Heol Balfe, Casnewydd toc ar ôl 9 o’r gloch nos Iau, Mehefin 10 y llynedd.

Bu farw’n ddiweddarach.

Mae Lewis Aquilina, 20 oed o Gaerdydd, Elliott Fiteni, 20 oed, sydd heb gyfeiriad parhaus, Kyle Rasis, 18 oed o Dreganna, Ethan Strickland, 19 oed o Gaerau, a llanc 17 oed nad oes modd ei enwi am resymau cyfreithiol, wedi’u cyhuddo o lofruddio’r tad i ddau.

Mae’r pump yn gwadu cyhuddiadau o lofruddiaeth, dynladdiad a dwyn y bag Gucci.

Mae disgwyl i’r achos bara rhwng chwech ac wyth wythnos.

Ar y diwrnod cyntaf, cadarnhaodd y sawl sydd wedi’u cyhuddo eu henwau, a chafodd y rheithgor ei ddewis.

Bydd y saith dyn a phum dynes yn dychwelyd fore heddiw (dydd Mercher, Ionawr 5) i ddechrau clywed dadleuon yr erlynydd, Michael Brady QC.

Mae’n bosib na fydd tystion yn rhoi tystiolaeth tan yr wythnos nesaf wrth i drafodaethau barhau ynghylch sut i gynnal yr achos yn unol â chyfyngiadau Covid-19 presennol Llywodraeth Cymru, gan fod angen cadw pellter o ddwy fetr rhwng pob unigolyn.