Mae Boris Johnson yn wynebu pwysau yn sgil ei benderfyniad i beidio cyflwyno rhagor o gyfyngiadau yn Lloegr er gwaetha cynnydd sylweddol mewn achosion o’r amrywiolyn Omicron a’r Gwasanaeth Iechyd o dan straen cynyddol oherwydd y coronafeirws.

Fe fydd y Prif Weinidog yn dadlau gyda’i Gabinet heddiw (dydd Mercher, 5 Ionawr) y dylid cadw at fesurau Cynllun B yn Lloegr wrth iddo dderbyn y bydd rhannau o’r gwasanaeth iechyd yn teimlo eu bod wedi’u “llethu dros dro”. Daw hyn er i wledydd eraill y Deyrnas Unedig gyflwyno cyfyngiadau pellach.

Mae disgwyl i Boris Johnson hefyd wynebu’r arweinydd Llafur Syr Keir Starmer yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog a heriau posib gan Aelodau Seneddol Ceidwadol sy’n feirniadol o’r cyfyngiadau, ynghanol pryderon am brinder staff.

Newid rheolau profion Covid?

Nid yw ffynonellau yn y Llywodraeth wedi gwadu adroddiadau sy’n awgrymu y bydd rheolau profi Covid-19 yn cael eu llacio oherwydd absenoldebau, er nad yw’n glir pryd daw’r cyhoeddiad.

Yn ôl papur The Telegraph fe allai’r newidiadau gael eu cyhoeddi heddiw a fyddai’n golygu na fydd miliynau sy’n cael canlyniad positif mewn prawf llif unffordd yn gorfod cael prawf PCR i gadarnhau hynny.

“Heriol”

Yn y cyfamser mae Ymddiriedolaethau Iechyd wedi bod dan bwysau sylweddol gydag ysbytai yn ardal Manceinion yn dweud ddoe y byddan nhw’n gohirio rhai llawdriniaethau sydd ddim yn rhai brys oherwydd “effaith cynyddol” Covid-19 a phrinder staff.

Mae Boris Johnson wedi cadarnhau y bydd yn cadw at fesurau Cynllun B, sy’n cynnwys canllawiau i weithio gartref, gwisgo mwgwd, a phasys Covid, cyn yr adolygiad o’r cyfyngiadau heddiw. Mae disgwyl i’r cyfyngiadau presennol, gafodd eu cyflwyno cyn y Nadolig, ddod i ben ar 26 Ionawr.

Mewn cynhadledd i’r wasg yn Downing Street, dadleuodd fod cyflwyno’r brechlyn atgyfnerthu wedi rhoi amddiffyniad sylweddol ac ychwanegodd: “Felly, ynghyd â’r mesurau Cynllun B a gyflwynwyd gennym cyn y Nadolig, mae gennym gyfle i wynebu’r don Omicron hon heb gyfyngiadau pellach ac yn sicr heb yr angen i gyflwyno cyfnod clo unwaith eto.”

Derbyniodd Boris Johnson y bydd yr wythnosau i ddod yn “heriol” a dywedodd “bydd absenoldebau staff yn tarfu ar rai gwasanaethau” wrth iddo addo “cryfhau” y GIG i wrthsefyll y pwysau a diogelu cadwyni cyflenwi.

O dan y mesurau, fe fydd 100,000 o “weithwyr allweddol” gan gynnwys rhai mewn trafnidiaeth, yr heddlu a dosbarthu bwyd, yn cael profion llif unffordd bob dydd gan ddechrau dydd Llun.

Mae disgwyl i Brif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon gyhoeddi’r camau nesaf yn Senedd yr Alban prynhawn ma.