Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cyhoeddi deiseb ar eu gwefan i geisio atal safle glofaol newydd yng Nghwm Nedd.

Mae disgwyl i’r Awdurdod Glo wneud penderfyniad ynghylch y safle yn Aberpergwm cyn bo hir.

Ond mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud ei fod yn mynd yn groes i addewidion Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig yn ystod uwchgynhadledd newid hinsawdd COP26 yn Glasgow i symud oddi wrth lo.

Roedd y safle yn Aberpergwm yn weithredol tan yn gymharol ddiweddar, ac mae disgwyl i’r Awdurdod Glo benderfynu a yw’r amodau’n briodol yno i ddechrau ar y gwaith.

“Nid yn unig y byddai agor safle glofa newydd yn gam enfawr yn ôl yn ein brwydr i atal newid hinsawdd, ond fe allai achosi effeithiau iechyd andwyol,” meddai’r Democratiaid Rhyddfrydol ar dudalen y ddeiseb ar eu gwefan.

“Dylai’r Llywodraeth fod yn canolbwyntio ar fuddsoddi yn ne Cymru i greu swyddi yn niwydiant y dyfodol, nid mewn diwydiant o’r gorffennol.”

Cefndir a hanes y safle

Cafodd pwll glo ei ailagor yn Aberpergwm yn 1996 ar ôl cael ei gau gan y Bwrdd Glo Cenedlaethol yn 1985.

Energybuild sy’n berchen y pwll, ac mae’r cwmni hwnnw’n eiddo Walter Energy yn yr Unol Daleithiau ers degawd.

Mae lle i gredu bod 7.6m tunnell o lo ar y safle yn 2011, gyda’r rhan fwyaf ohono’n mynd ar y pryd i safle gweithfeydd dur Tata ym Mhort Talbot.

Daeth y gwaith ar y safle i ben yn 2015, ac fe gafodd ei weithredu wedyn ar sail “gofal a chynnal a chadw”.

Mae Plas Aberpergwm ar y safle hefyd, a hwnnw’n arfer bod yn eiddo’r teulu Williams Aberpergwm.

Cafodd canolfan iechyd dau lawr ei godi ar safle’r golchdy, ac fe agorodd yn 2019 gan gynnig gwasanaethau iechyd integredig ar gyfer nifer o bentrefi cyfagos yng Nghwm Nedd dan reolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Meddygfa Cwm Nedd a Fferyllfa D R Cecil Jones.