Mae ymgyrchydd a fu’n rhan o brotest fawr yn Efrog Newydd tros Ddeddf Iaith Wyddeleg newydd dros y penwythnos wedi mynegi ei ddicter bod Gwyddelod yn dal i aros.

Ddydd Sul (Ionawr 2), fe wnaeth ymgyrchwyr ymgasglu y tu allan i adeilad Conswlaeth Prydain yn Efrog Newydd yn cefnogi’r alwad i gael Deddf Iaith Wyddeleg newydd.

Mae hynny wedi bod yn ddyhead hir gan nifer o bobol ar ynys Iwerddon, ond mae diffyg gweithredu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn atal y ddeddf rhag cael ei chyflwyno.

Cafodd yr hawliau eu cydnabod gyntaf yng Nghytundeb Gwener y Groglith yn 1998, ac eto yn 2006 fel rhan o Gytundeb St Andrews, cytunodd y Llywodraeth i ddeddfu yn San Steffan i gyflwyno Deddf Iaith er mwyn gwarchod hawliau siaradwyr.

Yn 2020, cafodd cytundeb Degawd Newydd, Dull Newydd ei lofnodi, a gwelodd hynny lywodraeth Gogledd Iwerddon yn cael ei ailsefydlu yn Stormont.

Roedd y cytundeb hwnnw, yn ailadrodd yr addewid i gyflwyno deddf yng ngogledd yr ynys, ond mae’n debyg bod plaid y DUP yn atal hynny rhag gallu digwydd.

Hefyd, dywedodd Brandon Lewis, un o weinidogion San Steffan, ym mis Hydref y byddai’n cyflwyno deddfwriaeth, ond dydy hynny ddim wedi digwydd chwaith.

Dim ond Gogledd Iwerddon o blith gwledydd Prydain sydd heb unrhyw ddeddf bellach i amddiffyn hawliau iaith leiafrifol, wedi i’r Gymraeg a’r Aeleg gael eu cydnabod gan lywodraethau datganoledig Cymru a’r Alban.

Ymgyrchu

Gwelodd y brotest ddydd Sul (2 Ionawr) bobol, gan gynnwys Gwyddelod ac Americanwyr o dras Wyddelig, yn dod at ei gilydd i gefnogi’r ymdrechion i sicrhau Deddf Iaith.

Cafodd y brotest ei threfnu gan Cumann Uí Chléirigh, sy’n byw yn Brooklyn, ar ran mudiad iaith Conradh na Gaeilge, sy’n brwydro dros hawliau’r Wyddeleg yn Iwerddon ac yn fyd-eang.

Yn ôl Brendan Fay, a fu yn y brotest, roedden nhw’n galw am “gyfres o gyfreithiau fel eu bod nhw’n gallu siarad eu hiaith, ac sy’n parchu’r iaith Wyddeleg”.

“Mae ein hanes ynghlwm â gwladychiaeth, gyda chyfreithiau sydd wedi gormesu ein hawliau i siarad, ac ein hunaniaeth,” meddai.

“Rydyn ni yma yn 2022 yn galw am yr hawl a gafodd ei addo yng Nghytundeb Gwener y Groglith, yn trafod parch at ein diwylliant, iaith, ac rydyn ni’n parhau i ddisgwyl am y ddeddf hon i gael ei phasio.

“Rydych chi’n eistedd ar y trên yn Efrog Newydd ac yn clywed pobol o bob cwr o’r byd yn siarad eu hiaith eu hunain, ond eto mae Gwyddelod efo teimladau cymysg am hynny oherwydd dydy llawer ohonom ni’n methu â siarad yn rhugl fel llawer o gwmpas y byd.

“Pam hynny? Oherwydd bod cyfreithiau yn ein hatal ni.

“Felly byddai’r ddeddf hon yn rhoi parch a chefnogaeth gyfartal i’r iaith Wyddeleg.”

Statws uwch yn Ewrop

Hefyd dros y penwythnos, fe wnaeth yr Undeb Ewropeaidd roi statws uwch i’r iaith Wyddeleg, sy’n golygu ei bod hi’n cael ei hystyried yn gyfartal â holl ieithoedd swyddogol eraill yr Undeb.

Fe alwodd Michael D Higgins, Arlywydd Iwerddon, hynny yn “gyflawniad sylweddol” ac yn “gydnabyddiaeth bwysig” o hunaniaeth ieithyddol y wlad.