Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y bydd eira’n disgyn dros rannau o Ogledd Cymru heno (nos Fawrth, Ionawr 4), wrth i dywydd gaeafol gyrraedd y rhanbarth.
Rhybuddiodd y Swyddfa Dywydd fod eira’n fwy tebygol ar dir uchel, yn enwedig yn Eryri, a’r disgwyl yw y bydd cawodydd mewn mannau eraill hefyd.
Mae rhybuddion tywydd am eira mewn sawl rhan o’r Deyrnas Unedig wrth i’r tymheredd ddisgyn ar draws Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr.
Fodd bynnag, mae’n debyg mai eirlaw fydd yn disgyn yn y rhan fwyaf o ardaloedd fydd yn cael eu heffeithio.
“Bydd rhai croniadau o eira dros y bryniau gyda’r nos a bydd hi’n teimlo’n llawer oerach yn sgil gwyntoedd cryfion o’r gogledd-orllewin,” meddai llefarydd.
“Bydd y tymheredd uchaf yn 6 °C.
“Bydd cawodydd eira yn parhau mewn mannau dros nos.
“Fodd bynnag, bydd llawer o leoedd yn gweld cyfnodau hir clir, gyda gwyntoedd yn arafu ac yn mynd yn oer ac yn rhewllyd, yn enwedig mewn ardaloedd mewndirol cysgodol. Tymheredd isaf -3 °C.”
Gall y gogledd hefyd ddisgwyl rhew yfory (dydd Mercher, Ionawr 5), gan y bydd y tywydd oer yn parhau i’r bore wedyn.