Fe fydd tynnu lluniau o famau sy’n bwydo o’r fron, heb yn wybod iddyn nhw, yn cael ei wneud yn anghyfreithlon yng Nghymru a Lloegr.

Bydd y gyfraith yn rhan o’r Bil Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd sy’n mynd drwy Senedd San Steffan ar hyn o bryd.

Daw hyn wrth i Dominic Raab, yr Ysgrifennydd Cyfiawnder, ddweud y bydd y ddeddfwriaeth yn atal menywod rhag cael eu “haflonyddu”.

Cadarnhaodd welliant arall i’r Bil hefyd a fyddai’n rhoi mwy o amser i ddioddefwyr trais yn y cartref roi gwybod i’r heddlu, gan “lenwi bylchau” yn y gyfraith sy’n arwain at berygl y gallai troseddwyr osgoi’r system gyfiawnder.

Cadarnhaodd y bydd y terfyn amser o chwe mis mewn achosion o ymosodiadau cyffredin sy’n ymwneud â thrais yn y cartref yn cael ei ymestyn.

Yr ymgyrch

Mae ymgyrchwyr wedi croesawu’r penderfyniad, gan ddweud y bydd y ddeddfwriaeth yn llwyddo i helpu mamau o ddydd i ddydd.

Aelodau Seneddol Llafur sydd wedi arwain yr ymgyrch.

Mae Jeff Smith a Stella Creasy wedi yn dweud yn Nhŷ’r Cyffredin fod etholwyr wedi dweud wrthyn nhw am brofiadau mamau yn bwydo ar y fron tra bod pobol yn tynnu lluniau ohonyn nhw â lens hir mewn parc lleol.

Mae Stella Creasy hefyd wedi sôn yn y gorffennol am rywun yn tynnu lluniau ohoni ar drên wrth iddi fwydo ei phlentyn, gan ddweud wrth y BBC ei fod yn “brofiad erchyll” a oedd yn gwneud iddi deimlo “mor hunanymwybodol”.

Cyflwynodd hi a Jeff Smith welliant i Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd yn Nhŷ’r Cyffredin ym mis Mehefin, gan alw am newid y gyfraith.

Croesawodd Stella Creasy y cam, gan ddweud y byddai’n “caniatáu i fwy o famau barhau â’u bywydau bob dydd heb gael eu haflonyddu, yn enwedig pan fo rhan o hynny’n bwydo eich plentyn – un o’r pethau mwyaf naturiol y gallwch ei wneud”.

Ond dywedodd hefyd ei fod yn dangos pwysigrwydd cael mwy o famau yn San Steffan – ymgyrch arall mae hi’n ei harwain – i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed ar y materion sydd yn effeithio arnyn nhw.

Mae’r gwelliant arall sy’n cael ei wneud i’r un Bil yn canolbwyntio ar ymestyn y terfyn amser o chwe mis y mae dioddefwyr ymosodiadau cyffredin yn ei wynebu yng Nghymru a Lloegr o ran adrodd am y drosedd.