Mae dros 600,000 o bobol wedi llofnodi deiseb yn galw am ddileu anrhydedd Syr Tony Blair.
Cafodd y cyn-arweinydd a chyn-Brif Weinidog Llafur, a oedd mewn grym yn San Steffan rhwng 1997 a 2007, y teitl wrth i Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd gael eu dyfarnu.
Ond mae’r ddeiseb yn cwyno bod ei rôl yn rhyfel Irac yn ei wneud yn “bersonol cyfrifol” am lawer o farwolaethau, ac yn ei gyhuddo o “droseddau rhyfel”.
Fore heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 4), fe gyrhaeddodd y ddeiseb ar-lein hanner miliwn o lofnodion, ond fewn ychydig oriau, mae’r nifer o lofnodion wedi cyrraedd 600,000.
Fe ddywedodd Syr Keir Starmer, arweinydd Llafur yn gynharach heddiw fod y cyn-Brif Weinidog yn “haeddu” cael ei urddo.
Ar Ddydd Calan (Ionawr 1), daeth Syr Tony yn aelod o Urdd y Gardas Aur, y gorchymyn hynaf yn Lloegr sy’n uchel iawn ei barch.
Yn wahanol i restr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd, a gafodd ei llunio gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i’w chymeradwyo gan Frenhines Loegr, mae Urdd y Gardas Aur yn rhodd bersonol gan y Frenhines.
All y Pwyllgor Fforffedu Anrhydeddau ddim argymell dileu’r marchogion sy’n cael eu hanrhydeddu fel hyn.
Ond mae’r ddeiseb ar y wefan www.change.org gan Angus Scott yn dweud bod Syr Tony Blair “wedi achosi niwed na ellir ei wneud i gyfansoddiad y Deyrnas Unedig ac i wead cymdeithas y genedl” tra ei fod e yn y swydd.
Mae’n annhebygol y bydd Tony Blair yn cael ei ddad-urddo yn sgil y ddeiseb hon.
Yn 2009, fe wnaeth George W. Bush, Arlywydd yr Unol Daleithiau ar y pryd, gyflwyno Medal Rhyddid yr Arlywyddiaeth i Tony Blair, sef yr anrhydedd sifil uchaf yr Unol Daleithiau, am ei “ymdrechion i hyrwyddo democratiaeth, hawliau dynol a heddwch dramor”.
Ond yn dilyn ymchwiliad Chilcot yn 2016, oedd yn edrych ar rôl y Deyrnas Unedig yn rhyfel Irac, daeth i’r casgliad fod Llywodraeth Tony Blair wedi dewis ymuno â’r ymosodiad cyn i’r holl opsiynau i ddiarfogi gael eu hystyried.