Dydi Keir Starmer ddim fel pe bai’n “deall be’ ydi awgrym” Maer Llundain i beidio ag erlyn pobol ifanc sy’n cael eu dal â chyffuriau Dosbarth B, yn ôl cyn-gomisiynydd Heddlu’r Gogledd.
Wrth ymateb i sylwadau arweinydd y Blaid Lafur am gynllun peilot Sadiq Khan, dywed Arfon Jones wrth golwg360 fod dadgriminaleiddio cyffuriau’n digwydd yn barod, ac nad oes angen newid y gyfraith i wneud hynny.
Mae Sadiq Khan, Maer Llafur Llundain, yn ystyried cynllun peilot i ddadgriminaleiddio rhai cyffuriau Dosbarth B megis canabis a chetamin, yn ôl adroddiad yn y Telegraph.
Dan y cynllun, byddai pobol dan 25 oed sy’n cael eu dal â’r cyffuriau yn mynd ar gyrsiau ymwybyddiaeth neu sesiynau gwnsela yn hytrach na chael eu harestio.
Wrth ymateb i’r awgrym, dywedodd Keir Starmer nad yw o blaid newid y gyfraith ar gyffuriau na chwaith o blaid dadgriminaleiddio.
‘Addysgu am beryglon’
Dywed Arfon Jones ei fod yn cytuno â Sadiq Khan, a bod addysgu pobol ifanc am gyffuriau am gael effaith ar droseddu difrifol.
“Y peth ydi, mae dadgriminialeiddio’n digwydd rŵan,” meddai Arfon Jones wrth golwg360.
“Yr unig beth ydi dadgriminaleiddio ydi’r ffordd rydyn ni’n delio efo pobol sydd efo cyffuriau – yn lle mynd â nhw i’r llysoedd, rwyt ti’n ymyrryd efo nhw i weld pam eu bod nhw’n cymryd cyffuriau.
“Ti’n addysgu nhw am beryglon cymryd cyffuriau, a dyna i gyd ydi dadgriminaleiddio. Dwyt ti ddim yn rheoleiddio nhw.
“Mae yna ddwy ffordd o edrych arni, rwyt ti’n dadreoleiddio cyffuriau, gwneud nhw i gyd fel y galli di brynu nhw, neu fel sydd gennym ni yng ngogledd Cymru – mae gennym ni brosiect Checkpoint lle rydyn ni’n arallgyfeirio pobol sy’n cael eu ffeindio efo cyffuriau fatha canabis.
“Yn lle ein bod ni’n mynd â nhw i’r llysoedd, be rydyn ni’n ei wneud, rydyn ni’n eu rhoi nhw trwy gwrs addysgu iddyn nhw gael gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth o beryglon cymryd cyffuriau.
“Dyna ddiwedd y stori, dydyn nhw ddim yn cael record, dydyn nhw ddim yn cael eu herlyn.
“Mae hynna’n digwydd mewn nifer o luoedd yng Nghymru a Lloegr.
“Os ydi o [Keir Starmer] yn erbyn dadgriminaleiddio, dydi o ddim yn gwneud fawr o synnwyr.
“Fyswn i’n cytuno 100% efo Sadiq Khan, mae delio efo pobol ifanc efo cyffuriau, eu haddysgu nhw… mae hynna’n mynd i gael effaith ar droseddu difrifol fatha troseddu efo cyllyll a llofruddiaethau yn Llundain.
“Mae o’n gwneud synnwyr llwyr be’ mae Sadiq Khan… a dw ddim yn siŵr be’ ydi gwrthwynebiad Keir Starmer, pa sail mae o’n gwrthwynebu.”
‘Dim rhaid newid y gyfraith’
Yr unig beth mae dadgriminaleiddio cyffuriau yn ei olygu yw newid y ffordd rydych chi’n delio â’r mater ar ôl i bobol gael eu dal, meddai Arfon Jones.
“Does dim rhaid i chdi newid y gyfraith i ddadgriminaleiddio, yr unig beth wyt ti’n ei wneud ydi newid y ffordd rwyt ti’n delio efo fo,” meddai.
“Mater i’r heddlu a’r llysoedd a Gwasanaeth Erlyn y Goron ydi sut maen nhw’n delio efo troseddau. Mae yna nifer o droseddau sy’n cael eu delio efo nhw tu allan i’r llysoedd, be’ maen nhw’n alw’n Outer Court Disposals, mae hyn wedi bod yn mynd ymlaen ers degawdau.
“Does dim rhaid i chdi erlyn pobol sy’n troseddu, mae yna nifer o ffyrdd gwahanol i ddelio efo fo.
“Dw i ddim yn meddwl bod Keir Starmer yn deall be’ ydi awgrym Sadiq Khan.
“Dydi Sadiq Khan ddim yn edrych ar newid y gyfraith, ellith o ddim, jyst fatha ni yng Nghymru, a’r Alban.
“Os fysa ni’n gallu, dw i’n siŵr y bysan ni wedi gwneud erbyn rŵan.
“Os ydyn ni wir eisiau mynd i’r afael â phroblem cyffuriau, yr unig ffordd o’i wneud o ydi tynnu’r cyflenwi i ffwrdd oddi wrth droseddwyr difrifol, a’i rhoi o yn nwylo’r wladwriaeth, fel maen nhw’n wneud mewn nifer o wledydd, fel Wrwgwái a dwsin neu fwy o daleithiau yn yr Unol Daleithiau.”
‘Gweld y difrod’
Wrth ymateb i gwestiynau am y cynllun peilot gan Sadiq Khan, dywedodd Keir Starmer ei fod wedi gweld y difrod mae cyffuriau’n gallu ei wneud.
“Ynglŷn â’r ddeddfwriaeth gyffuriau, dw i wedi dweud nifer o weithiau ac mi ddywedaf eto, dw i ddim o blaid newid y gyfraith na dadgriminialeiddio. Dw i’n eglur iawn ynglŷn â hynny.
“Dw i heb weld manylion y cynigion rydych chi wedi adrodd amdanyn nhw. Fel dw i’n deall, maen nhw’n fesurau cynnar, maen nhw’n ryw fath o beilot.
“Yn amlwg byddwn yn edrych arnyn nhw, ond dw i’n glir iawn nad ydyn ni o blaid newid cyfreithiau cyffuriau.
“Roeddwn i’n brif erlynydd y wlad am bum mlynedd – dw i wedi gweld y difrod mae cyffuriau’n gallu ei wneud i fywydau cynifer o bobol.
“Mae Maer Llundain yn gwneud peilot, yn amlwg bydd pawb â diddordeb yn sut mae’n edrych.
“Mae e yn ei gamau cynnar iawn.
“Ond dw i ddim o blaid newid y cyfreithiau cyffuriau.”