Mae tân difrifol ar Ystâd Ddiwydiannol Glan yr Afon yn Llanbadarn Fawr ger Aberystwyth.

Fe wnaeth Heddlu Dyfed Powys gadarnhau bod y brif ffordd yn y pentref wedi cael ei chau yn dilyn y tân oedd wedi dechrau brynhawn heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 4).

Mae’n ymddangos fel petai’r mwg yn deillio o un o safleoedd Cyngor Sir Ceredigion ar yr ystâd.

Mae’r heddlu hefyd yn galw ar bobol i osgoi’r ardal, ac yn annog trigolion lleol i aros tu fewn a chadw ffenestri ar gau tan y bydd diweddariad pellach.

Does dim cadarnhad eto a oes unrhyw un wedi cael niwed yn y tân.

Dywed llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu bod nhw “ar hyn o bryd yn ymateb i dân ar ystâd ddiwydiannol yn Llanbadarn Fawr, Aberystwyth”.

“Mae pedwar offeryn tân, ysgol droi, pwmp dŵr ac uned amgylcheddol wedi eu lleoli yn y digwyddiad,” meddai.

“Mae Heddlu Dyfed Powys hefyd yn bresennol.

“Ar hyn o bryd, mae’r ffordd yn Llanbadarn Fawr ar gau ac mae trigolion lleol yn cael eu hannog i gadw ffenestri ar gau ac i aros dan do tan y bydd diweddariad pellach gan yr heddlu.

“Rydyn ni’n gofyn i’r cyhoedd osgoi’r ardal tra bod y gwasanaethau brys yn bresennol.

“Mae’r digwyddiad yn parhau.”