Mae gwella safonau mewn ffordd sy’n diogelu masnach ac yn creu sector ffermio mwy cynaliadwy yn allweddol i Gynllun Gweithredu Iechyd a Lles Anifeiliaid newydd Llywodraeth Cymru, yn ôl Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Materion Gwledig Cymru.

Daw ei sylwadau wrth i’r Cynllun Gweithredu terfynol a gyhoeddir o dan y Fframwaith cyfredol gael ei lansio heddiw, ar gyfer 2022-24.

Mae’r Fframwaith yn amlinellu cynllun deng mlynedd ar gyfer y cyfnod rhwng 2014 a 2024 o ran gwelliannau hirdymor er lles iechyd anifeiliaid sydd wedi’u cadw, ac yn cyfrannu at warchod iechyd y cyhoedd, yr economi a’r amgylchedd.

Bydd Fframwaith newydd yn cael ei gyflwyno yn 2024, ac fe ddaw yn wyneb heriau yn sgil y pandemig Covid-19, Brexit a’r argyfwng hinsawdd, ac wrth i’r Deyrnas Unedig weld cynnydd sylweddol mewn achosion o’r ffliw adar.

Yr uchelgais yw sicrhau’r safonau gorau posib yng Nghymru, ac mae’r cynllun yn mynd i’r afael ag amrywiaeth o agweddau ar iechyd a lles anifeiliaid, y cysylltiad rhwng iechyd a lles anifeiliaid a iechyd pobol, a’r amgylchedd.

Mae’r cynllun yn cydnabod cyd-ddibyniaeth rhwng yr agweddau hynny er mwyn sicrhau iechyd pobol ac anifeiliaid, yn ogystal â lles yr amgylchedd maen nhw’n cyd-fyw ynddo, a’r bwriad yw sicrhau canlyniadau gwell trwy gydweithio a chyfathrebu’n well ar draws sawl sector.

Mae’n mynd i’r afael ag agweddau allweddol ar iechyd a lles anifeiliaid ac yn pwysleisio bod gan bawb gyfrifoldeb am fioamrywiaeth – neges sy’n bwysicach nag erioed yng nghanol lefelau uchel o ffliw adar gan fod sicrhau bioamrywiaeth yn ffordd dda o geisio atal ymlediad y ffliw.

‘Coronafeirws yn sicr wedi profi ein gwytnwch ni’

“Mae’r tirlun wedi newid yn ddramatig ers gadael yr Undeb Ewropeaidd ac mae pandemig y coronafeirws yn sicr wedi profi ein gwytnwch ni,” meddai Lesley Griffiths.

“Mae adfywio ac ail-lansio ein Cynllun Gweithredu bellach yn rhoi cyfle i roi lle blaenllaw i iechyd a lles anifeiliaid wrth fynd i’r afael â’r materion a’r heriau sy’n ein hwynebu mewn ffordd gynaliadwy, gydweithredol a chydlynol.

“Rydyn ni eisiau i bob anifail yng Nghymru gael bywyd o ansawdd da ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn ein Rhaglen Lywodraethu, gan roi cyfle i ni adeiladu ar bopeth rydyn ni wedi’i gyflawni ers i bwerau iechyd a lles anifeiliaid gael eu datganoli i Gymru.

“Mae’r Cynllun Gweithredu hwn yn ategu’r Cynllun Lles Anifeiliaid pum mlynedd ar gyfer Cymru a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd. Mae’r strategaethau a’r camau gweithredu ym mhob un yn integredig ac yn rhyngddibynnol, gan ddangos ein penderfyniad i weithio mewn ffordd gydlynol.

“Bydd ein Cynllun Ffermio Cynaliadwy arfaethedig yn cynnwys iechyd a lles anifeiliaid fel elfen allweddol hefyd, yn seiliedig ar ein huchelgais ar y cyd i wella enw da Cymru ymhellach fel cenedl sy’n caru, yn gofalu am ac yn parchu ei hanifeiliaid.

“Mae cwmpas y Cynllun Gweithredu hwn yn eang a thrwy wirioneddol weithio ar y cyd, rwy’n hyderus y gallwn barhau i godi safonau iechyd a lles anifeiliaid.”