Mae wyth marwolaeth yn gysylltiedig â Covid-19 a 22,317 o achosion newydd wedi cael eu cofnodi, yn ôl ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae’r ffigyrau yn ymwneud â’r 48 awr hyd at 9 o’r gloch fore Sul (Ionawr 2).
Daw hyn â chyfanswm y rhai sydd wedi marw gyda Covid-19 i 6,589, tra bod cyfanswm yr achosion wedi codi i 668,473.
Yn y cyfamser, mae’r gyfradd saith diwrnod fesul 100,000 o bobol wedi codi o 1,415 i 1,986 sef y ffigwr uchaf ers dechrau’r pandemig.
Rhondda Cynon Taf (2,638), Merthyr Tudful (2,557) a Blaenau Gwent (2,503) sydd â’r cyfraddau uchaf.
Fodd bynnag, erbyn hyn mae gan 11 sir – hanner siroedd Cymru – gyfraddau uwch na 2,000.
Yn Sir Fynwy (1,325), Powys (1,436) a Sir Benfro (1,492) mae’r cyfraddau isaf.
O ran brechu, mae 2,491,285 o bobol wedi cael o leiaf un brechlyn; 2,304,792 wedi cael o leiaf ddau; a 1,648,826 wedi derbyn brechlyn atgyfnerthu.