Mae dau set o arteffactau efydd a gafodd eu darganfod yng Ngwent wedi cael eu datgan fel trysor.
Daeth dau ddyn â datgelyddion metel ar draws y gwrthrychau o’r Oes Efydd yn Sir Fynwy a Chasnewydd.
Mae Naomi Rees, Crwner Cynorthwyol Gwent, wedi datgan bod y ddau set yn drysor, ac yn dyddio o ddiwedd yr Oes Efydd (1000-800 CC).
Cafodd y celc cyntaf o wrthrychau ei ganfod gan Wayne Williams wrth iddi ddefnyddio ei ddatgelydd metel mewn cae yng nghymuned y Grysmwnt, Sir Fynwy ym mis Ebrill 2019.
Mae’r casgliad hwnnw’n cynnwys 16 gwrthrych, gan gynnwys darn o saith bwyell socedog, darn o lafn cleddyf, chwe ffroenell fwrw, a dau ingot.
Mae’n bosib iddyn nhw gael eu claddu gan gybydd gofalus, ond mae’n fwy tebygol eu bod nhw wedi’u claddu fel anrheg grefyddol, gan of efydd oedd yn byw neu’n gweithio gerllaw, meddai Amgueddfa Cymru.
Pan fydd yr arteffactau wedi cael eu prisio, mae Amgueddfa’r Fenni yn gobeithio cael y casgliad hwnnw.
‘Adrodd mwy o hanesion’
Dywed Chris Griffiths, myfyriwr ymchwil yn Amgueddfa Cymru, fod y darganfyddiadau diweddar hyn yn help i “ddysgu mwy am ardaloedd o Gymru sydd wedi bod yn ddirgelwch i ni”.
“Mae’r gyfradd uchel o ddeunyddiau crai a sbarion y broses gastio o fewn y celc hwn yn anarferol, ac yn awgrymu efallai bod gweithdy gerllaw,” meddai.
Ychwanegodd y Cynghorydd Lisa Dymock, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Lesiant Cymunedol a Chyfiawnder Cymdeithasol, fod “pob celc o’r Oes Efydd yn unigryw, sy’n gwneud pob un yn ddiddorol ac yn destun astudiaeth bwysig gan eu bod yn ychwanegu at ein gwybodaeth a’n darlun o’r cyfnod”.
“Mae’r celc hwn o gymuned y Grysmwnt yn ddiddorol am ei fod yn dangos pa mor werthfawr oedd pob darn o efydd, a bod y malurion hyn yn ddigon pwysig i’w claddu fel hyn,” meddai.
“Mae’n rhyfeddol sut y gall y darnau bychain hyn ein helpu i adrodd mwy o hanesion o orffennol Sir Fynwy yn ein Hamgueddfeydd.”
‘Ychwanegiad gwych’
Cafodd yr ail gelc o fwyeill socedog efydd ei ganfod gan Ian Evans wrth iddo ddefnyddio datgelydd metel mewn cae yng nghymuned Llanfihangel-y-fedw, Casnewydd ym mis Mawrth 2020.
Mae’r celc bychan hwnnw’n cynnwys dwy fwyell a gafodd eu claddu gyda’i gilydd bron i 3,000 o flynyddoedd yn ôl, gan ffermwr o’r ardal, mae’n debyg.
Mae Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd yn gobeithio cael y set honno er mwyn ei harddangos.
Dywedodd y Cynghorydd Debbie Harvey, Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden Cyngor Casnewydd, y “byddai celc Llanfihangel-y-fedw yn ychwanegiad gwych i gasgliad Oes Efydd Amgueddfa Casnewydd”.
“Mae lle wedi’i gadw ar gyfer y celc yn ein harddangosfa Cynhanes newydd, sydd yn cynnwys arddangosiad o waith metel o’r Oes Efydd,” meddai.