Ni fydd gofyn i bobol sydd heb symptomau Covid, ond sy’n cael prawf llif unffordd positif, fynd am brawf PCR yng Nghymru o fory ymlaen (6 Ionawr).

Mae’r newid wedi cael ei wneud gan Weinidog Iechyd Cymru er mwyn ymateb i’r cynnydd mewn galw am brofion PCR yn sgil ton Omicron.

Bydd gofyn i bobol sydd heb symptomau ac sy’n cael prawf llif unffordd positif hunanynysu ar unwaith pan maen nhw’n cael prawf positif, yn hytrach na mynd am PCR i gadarnhau’r canlyniad.

Dim ond pobol sydd mewn grŵp sy’n glinigol agored i niwed fydd yn cael eu cynghori i fynd am PCR i gadarnhau canlyniad prawf llif unffordd.

Bydd pobol â symptomau Covid yn gallu mynd am PCR, a dydi’r cyngor ar eu cyfer nhw ddim yn newid.

Gan fod cyffredinrwydd y coronfeirws yn uwch nag 1%, mae’r risg o gael canlyniad positif anghywir o brofion llif unffordd yn gostwng, meddai Eluned Morgan.

Golyga hynny, meddai, fod llai o werth cael prawf PCR wedyn i gadarnhau’r canlyniad – ond mae Llywodraeth Cymru’n nodi ei bod hi’n bwysicach fyth bod pobol yn cofnodi canlyniad pob prawf llif unffordd.

Os nad yw’r profion yn cael eu cofnodi, ni fydd hi’n bosib olrhain cysylltiadau, ac ni fydd y system yn gallu darparu cyngor i gysylltiadau.

Newidiadau pellach

Mae Eluned Morgan wedi cyhoeddi hefyd y dylai pobol sydd heb eu brechu ac sy’n gysylltiadau agos i achosion positif, ac sy’n hunanynysu am ddeng niwrnod, wneud prawf llif unffordd ar ddiwrnod dau a diwrnod wyth, yn hytrach na phrawf PCR.

Mae’r newid hwnnw’n dod i rym ar unwaith, a bydd yn helpu i gynyddu capasiti profion PCR, meddai’r Gweinidog Iechyd.

Mae’r un newidiadau wedi cael eu cyhoeddi ar gyfer Lloegr, yr Alban, a Gogledd Iwerddon hefyd, ac mae disgwyl i’r drefn newydd ostwng y galw am brofion PCR rhwng 5% a 15%.

Ers Dydd Nadolig, mae’r archebion dyddiol mewn safleoedd profi ar draws Cymru wedi cyrraedd 28,000, sef yr uchaf erioed.

Mae’r dadansoddiadau diweddaraf yn amcangyfrif bod tua un ymhob 20 person wedi cael Covid-19 yn yr wythnos hyd at 31 Rhagfyr, cynnydd o’r un ymhob 40 yn ystod yr wythnos flaenorol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod hi’n bosib y bydd angen cyflwyno newidiadau pellach i gadw profion PCR ar gyfer gweithwyr allweddol os yw’r galw’n parhau i godi.

“Mae staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gofal cymdeithasol yn cael gafael ar brofion o’n labordai GIG Cymru,” meddai Eluned Morgan.

“Mae’n bosibl y bydd angen i ni gyflwyno newidiadau pellach i gadw profion PCR ar gyfer gweithwyr allweddol drwy raglen brofi’r Deyrnas Unedig os bydd y galw’n parhau i godi yn y diwrnodau a’r wythnosau nesaf.

“Mae’n bosibl y bydd angen i ni hefyd gyflwyno ymyriadau brys dros dro ar gyfer unigolion symptomatig nad ydynt yn agored i niwed er mwyn rheoli’r galw ac amddiffyn capasiti er mwyn dod o hyd i’r achosion sydd fwyaf tebygol o arwain at niwed.”

Cyflenwad profion llif unffordd

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y gallai’r newidiadau hyn gynyddu’r galw am brofion llif unffordd.

Nid oes unrhyw broblemau gyda chyflenwadau ar hyn o bryd, meddai Eluned Morgan, ond dywedodd bod Llywodraeth Cymru’n ymwybodol o broblemau gyda’u dosbarthu nhw i rai mannau casglu megis fferyllfeydd.

“Asiantaeth Diogelwch Iechyd y Deyrnas Unedig sy’n rheoli logisteg a dosbarthu ar draws y DU, ac rydym yn gweithio’n agos gyda nhw i wella’r sefyllfa.

“Cafodd mwy na 4 miliwn o brofion eu dosbarthu i weithleoedd, cartrefi pobl a mannau casglu yng Nghymru’r wythnos diwethaf.”

“Gwarchod” y cyflenwad

Mae llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George, wedi croesawu’r newidiadau, gan ddweud y bydd yn help i warchod y cyflenwad o brofion PCR.

“Mae’r newid hwn i’w groesawu ar ddwy sail, bydd yn gwarchod y cyflenwad cynyddol werthfawr o brofion PCR ac, yn ail, bydd yn sicrhau cysondeb dros y Deyrnas Unedig,” meddai Russell George AoS.

“Wrth gwrs, dyw profi ar ben ei hun ond yn ffordd o adnabod pobol sy’n cario’r feirws, ni fydd yn ei guro.

“Dim ond drwy frechiadau mae posib gwneud hynny, a dylai pawb sy’n gymwys dderbyn eu brechlyn atgyfnerthu ar y cyfle cynharaf posib.”