Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar ddiffyg staff ac offer diogelwch yn y sector gofal yng Nghymru.

Daw hyn yn dilyn cwyn gan gyfarwyddwr cartref gofal sy’n rhybuddio fod heriau cynyddol ton Omicron yn bygwth y sector.

Mae Glyn Williams, cyfarwyddwr Gwyddfor Residential Ltd yng Nghaergybi, wedi rhybuddio mai dim ond cyfnod clo all achub y sector rhag y sefyllfa o ran absenoldebau staff a diffyg offer diogelu personol (PPE).

Ond mae’r Ceidwadwyr yn mynnu y dylai Llywodraeth Cymru fod yn buddsoddi mewn offer diogelwch digonol yn hytrach na ffafrio cyfnod clo arall.

Cartrefi gofal

Ar hyn o bryd mae staff gofal yng Nghymru yn gwisgo masgiau llawfeddygol safonol mewn cartrefi yn hytrach na masgiau FFP3 sy’n cael eu defnyddio pan fydd gweithdrefnau cynhyrchu arosol (Aerosol Generating Procedure – AGP) ar waith.

Mae gan gartref gofal Gwyddfor Residential 28 o drigolion oedrannus ac mae’n ddarparu gofal dementia arbenigol, ond dros Noswyl Nadolig a Nos Galan dim ond 1 aelod o staff oedd ar gael i weithio.

“Y broblem fwyaf i ni, yw nid y clefyd ei hun yn gymaint, oherwydd mae’n ymddangos yn eithaf ysgafn, ond y ffaith ei fod yn effeithio ar gynifer o’n staff ar hyn o bryd,” meddai mewn cyfweliad ar ITV News Wales.

“Yn gynnar yn y pandemig, roedd y rhan fwyaf ohonom yn cydnabod bod staffio’n mynd i fod yn broblem felly fe wnaethon ni drefnu dau ychwanegol ar bob tîm i ganiatáu ar gyfer ynysu a salwch, ac roedd hynny’n ein cario ni drwy’r don Delta.

“Mae Omicron yn datblygu mor gyflym … mae’n tynnu cymaint o bobl allan ar unwaith.”

Ychwanegodd Mr Williams fod ei gartref yn dal i aros am ganlyniadau profion PCR ei staff gafodd eu cynnal ddydd Iau, 30 Rhagfyr, gan ychwanegu at bryder y gallai fod staff yn cario’r feirws yn ddiarwybod iddynt.

Gyda niferoedd staffio mor isel, mae hefyd yn ofni na fydd dewis gan rai cartrefi ond caniatáu i staff weithio tra’n bositif gyda’r feirws.

‘Offer diogelwch yn hytrach na chyfnod clo’

Ond yn ôl y Gweinidog Cysgodol dros Wasanaethau Cyhoeddus, Gareth Davies, mae angen i Lywodraeth Cymru ddarparu offer diogelwch digonol yn hytrach nag ystyried cyfnod clo arall.

“Os oes gennym benaethiaid cartrefi gofal yn dweud bod yn rhaid i ni ddewis rhwng y cyfnod clo a gwell PPE, yna does gen i ddim amheuaeth y byddai pawb am weld Llywodraeth Lafur yn sicrhau darpariaeth offer diogelwch i staff gofal sy’n gweithio’n galed yn hytrach na chau a difrodi’r gymdeithas gyfan a’r economi unwaith eto.

“Ers hynny, dim ond yr haf diwethaf, gwelsom y Gymdeithas Feddygol Brydeinig yn dweud mai un o’r rhesymau pam mae Gwasanaeth Iechyd Cymru wedi profi pwysau mor aruthrol yn ddiweddar yw oherwydd PPE annigonol, ac eto fe wnaethom roi cyflenwadau i wledydd eraill yn hytrach nag arbed arian i ofalu am ein rhai ni.

“Mae’r Llywodraeth Lafur yn dweud wrthym yn rheolaidd eu bod yn delio â’r pandemig yn dda, ond yn sicr, bron i ddwy flynedd ers i coronafeirws daro’r Deyrnas Unedig, ni ddylai PPE digonol fod yn broblem i ddarparwyr gwasanaethau, ond yn rhan integredig o’r gadwyn gyflenwi ac yn rhan o’r drefn.”

Llywodraeth Cymru

Mewn ymateb i feirniadaeth am lefel y cyfarpar diogelu personol sy’n cael ei darparu i gartrefi gofal, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn parhau i weithio’n agos iawn gyda’r sector gofal a’i gynrychiolwyr.

“Mae hyn yn cynnwys darparu arweiniad, cymorth ariannol, a mynediad i gyflenwadau PPE rheolaidd ac am ddim.

“Mae awdurdodau lleol mewn cysylltiad parhaus â chartrefi gofal i sicrhau bod staffio’n cael eu cynnal ar lefel sy’n sicrhau diogelwch a lles preswylwyr.

“Mae sicrhau bod gan bob gweithiwr iechyd a gofal cymdeithasol y PPE cywir yn flaenoriaeth ac ers dechrau’r pandemig mae mwy na biliwn o eitemau o PPE wedi’u cyflenwi ar draws iechyd a gofal cymdeithasol.

“Yn unol â chanllawiau atal a rheoli heintiau’r Deyrnas Unedig, darperir masgiau FFP3 i’r holl staff sy’n ymwneud â gweithdrefnau cynhyrchu aerosol ac mewn amgylchiadau lle mae risg barhaus o drosglwyddo heintiau er bod mesurau diogelu eraill ar waith.

“Byddwn yn parhau i ddilyn y canllawiau cenedlaethol hyn.”