Mae arweinydd Plaid Cymru wedi erfyn ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i roi diwedd ar ‘ynysu a gwahanu’ pobl â dementia.

Yn ddagreuol ar lawr siambr San Steffan fe soniodd Liz Saville-Roberts, AS Dwyfor Meirionnydd, am ddiagnosis dementia ei mam cyn y Nadolig.

Mae’n galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i wireddu ar eu hymrwymiadau i egwyddorion ‘Ymgyrch John’.

Mae ‘Ymgyrch John’ yn ymgyrch dros hawliau ymweld estynedig i deulu cleifion â dementia sydd mewn ysbytai ym Mhrydain, ac wedi bod yn flaenllaw yn ystod y pandemig yn sgil cyfyngiadau ar ymweld â chartrefi gofal.

Fe fynnodd Liz Saville-Roberts “na ddylid anwybyddu hawliau dynol pobl anabl ac oedrannus oherwydd pwysau Covid”.

“Cafodd fy mam, Dr Nancy Saville, ddiagnosis o ddementia yn union cyn y Nadolig,” meddai.

“Cefais alwad i eistedd gyda hi yn yr ysbyty ddydd Llun oherwydd prinder staff yn sgil covid, ond mae arna’i ofn y byddwn ni – fel llawer o’n hetholwyr mewn amgylchiadau tebyg – yn debyg o gael ein gwahanu am gyfnod amhenodol pan gaiff hi ei symud i Gartref Nyrsio i’r Henoed sy’n Feddyliol Bregus (Elderly Mentally Infirm – EMI).

“Ymgyrchodd ‘Ymgyrch John’ yn llwyddiannus ar draws holl genhedloedd y Deyrnas Unedig i sicrhau fod pobl anabl oherwydd dementia yn derbyn gofal arbenigol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

“Ond y gwir yw bod yna lawer o gartrefi gofal ac ysbytai lle mae hyd yn oed yr ymweliadau mwyaf byr ac ysbeidiol yn cael eu hatal – ac y mae hyn yn arwain at ynysu a gwahanu, sy’n achosi difrod di-droi’n-ôl i les y bobl hyn.

“A yw’n cytuno [y Prif Weinidog, Boris Johnson] nad yw hawliau dynol pobl anabl, sâl a’r henoed yn rhywbeth a ddylai gael ei ystyried yn ‘foethus’, a bod pawb sydd â dementia, ble bynnag y bônt, â’r hawl i ofalu am aelod o’r teulu.”

‘Taro cydbwysedd’

Fe ymatebodd Boris Johnson drwy estyn cymdeimladau i’r Aelod dros Ddwyfor Meirionnydd.

“Mr Llefarydd, a allaf estyn fy nghydymdeimlad dwysaf yn gyntaf, ac rwy’n siŵr y bydd yr holl dŷ a phawb sydd wedi gwrando arni yn rhannu ei theimladau ac yn dymuno estyn eu cydymdeimlad am gyflwr presennol ei mam,” meddai ar lawr y siambr.

“Gwn y bydd ei theimladau’n cael eu gwaethygu gan yr anawsterau y mae cynifer o bobl ar hyd a lled y wlad yn eu hwynebu oherwydd y cyfyngiadau y mae’n rhaid i ni eu rhoi ar gartrefi gofal, ac rwyf yn cydymdeimlo’n fawr.

“Mae’n rhaid i ni geisio taro cydbwysedd a chadw preswylwyr cartrefi gofal yn ddiogel a gwneud yr hyn a allwn i atal yr epidemig rhag cael ei ddal mewn cartrefi gofal.

“Rydym yn parhau i ganiatáu tri ymwelydd enwebedig i gartrefi gofal ac ni ddylid cyfyngu ar hyd yr ymweliadau hynny.

“Ond rwy’n deall y gofid a’r pryder penodol y mae’r amgylchiadau yn ei achosi, awgrymaf ei bod yn cael cyfarfod cyn gynted ag y gellir ei drefnu gyda’r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd [Sajid Javid].”

Liz Saville-Roberts yn ddagreuol yn ei phle emosiynol i roi’r gorau i ‘ynysu a gwahanu’ pobl â dementia

Hawliau yn cael eu hanwybyddu

Wrth siarad wedi’r sesiwn, dywedodd Ms Saville-Roberts fod yna berygl fod Llywodraeth Cymru hefyd yn anwybyddu hawliau pobl sydd â Dementia.

“Rwy’n croesawu ymrwymiad y Prif Weinidog i Ymgyrch John – ond dan ei lywodraeth yn Lloegr, yn union fel sy’n digwydd dan ein llywodraeth bresennol ni yng Nghymru, gwaetha’r modd, mae hawliau dynol sylfaenol pobl â dementia yn cael eu hanwybyddu,” meddai.

“Mae gan Lywodraeth Cymru destun polisi cymeradwy ar gael gyda’r Cynllun Gweithredu Dementia i Gymru 2018 – 2022.

“Ond mae bwlch enfawr rhwng yr hyn mae’n disgrifio a gwirionedd yr hyn sy’n digwydd yn ein hysbytai a’n cartrefi gofal, yng Nghymru a Lloegr fel ei gilydd.

“Gyda’n Gwasanaeth Iechyd a gwasanaethau gofal cymdeithasol dan straen unwaith eto, mae arnom angen ymrwymiad gan lywodraethau ledled y Deyrnas Unedig y gall gofalwyr gwirfoddol fod yn gymorth cariadus yn y cyfnod heriol hwn.”

Mae Golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.