Bu Prif Weinidog Cymru yn “chwarae gwleidyddiaeth” gyda chyfyngiadau Covid dros y Nadolig, yn ôl Aelod Seneddol Ceidwadol o Loegr.

Dywedodd Michael Fabricant, Aelod Seneddol Ceidwadol dros Lichfield, wrth Dŷ’r Cyffredin yn ystod Cwestiynau i Ysgrifennydd Gwladol Cymru, fod pobl yng Nghymru wedi dweud wrtho fod Llywodraeth Mark Drakeford yn niweidio’r economi.

Dros y Nadolig gwelwyd cyfyngiadau Covid llymach yn dod i rym yng Nghymru o gymharu â Lloegr gyda chau clybiau nos a chanslo digwyddiadau chwaraeon torfol yn rhan o hynny.

“Ar ôl treulio Gŵyl San Steffan a’r Flwyddyn Newydd yng Nghymru, yn ymweld â fy mam annwyl, fe wnes i gyfarfod â nifer o bobl gan gynnwys pobl fusnes gyda’r nos oedd yn dweud nad yw cynllun Mark Drakeford ar gyfer cyfyngiadau Covid yn ddim byd mwy na chwarae gwleidyddiaeth a’i fod yn niweidio eu heconomi,” meddai.

‘Eiddo yng Nghymru’

Yn ddiweddar, datgelodd mewn cyfweliad â Gloria De Piero ar y sianel newyddion asgell dde, GBNews, fod ganddo dŷ gwyliau yng Nghymru gyda’i bartner, Maer Gorllewin Canolbarth Lloegr a chyn-bennaeth siopau John Lewis, Andy Street.

“Mae gennym ni eiddo gyda’n gilydd yng Nghymru oherwydd mae’r ddau ohonom yn hoffi cerdded,” meddai.

Fis diwethaf fe ddywedodd yr Aelod Ceidwadol ei fod yn “sybsideiddio Cymru” mewn dadl ar Twitter, a honodd fod pobl yn meddwl fod Mark Drakeford yn “unhinged”.

“Rwy’n sybsideiddio Cymru a’r holl nonsens yma fel y mae pob Sais a Saesnes yn ei wneud,” meddai bryd hynny, cyn ychwanegu: “Roedd fy mam yn Gymraes, dw i’n siarad Cymraeg (yn wael) ac mae’n gas gen i weld y ffordd mae Cymru’n cael ei rhedeg.”

Parkrun

Yn ogystal, cafwyd beirniadaeth gan Aelod Ceidwadol Preseli Penfro, Stephen Crabb, a oedd yn cwyno am benderfyniad Llywodraeth Cymru i wahardd gweithgareddau chwaraeon torfol.

“Gyda gweinidogion Llywodraeth Lafur Cymru bellach yn cyflwyno dirwyon i geisio atal pobl rhag mynd i’w gweithleoedd, y penderfyniad gwallgof i wahardd Park Runs, a sector lletygarwch Cymru i bob pwrpas o dan gyfyngiadau symud i mewn i’r flwyddyn newydd, a yw ef [Ysgrifennydd Cymru Simon Hart] yn rhannu fy mhryder mawr mai Cymru sy’n wynebu’r cyfyngiadau mwyaf beichus a mwyaf ymwthiol ar unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig unwaith eto ac a yw’n cytuno â mi bod y mesurau hyn yn cael eu gyrru’n fwy gan ofn a phesimistiaeth na gwyddoniaeth dda?”

“Rwy’n credu ei bod yn hurt na all pobl, yn ei dref ei hun yn Hwlffordd, wylio rygbi ar y llinell gyffwrdd ond gallant lenwi tafarn, mae hynny’n nonsens ac mae’n gwella’n syfrdanol.”

Fe ymatebodd Mr Hart gan ddweud: “Mae’r llu o fesurau diweddar a rhai o’r enghreifftiau dryslyd wedi gadael hyd yn oed y bobl fwyaf ffyddlon yn amau a yw [Mark Drakeford] yn dal i fod yn abl i wneud y penderfyniadau hynny.”

Llywodraeth Cymru

“Drwy gydol y pandemig, rydym wedi ymateb mewn ffordd sy’n seiliedig ar wyddoniaeth a thystiolaeth,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth ymateb.

“Mae Omicron yn fath o coronafeirws sy’n symud yn gyflym ac sy’n heintus iawn.

“Er bod astudiaethau rhagarweiniol yn rhoi gobaith am ddifrifoldeb y clefyd, yr ydym yn gweld nifer fawr o bobl wedi’u heintio, gan achosi sgil-effeithiau ar wasanaethau cyhoeddus a’r economi oherwydd absenoldebau staff.

“Rydym hefyd yn gweld cynnydd yn nifer y bobl â Covid-19 yn cael eu derbyn i’r ysbyty ar adeg pan fo’r GIG eisoes ar ei brysuraf.

“Mae’r mesurau a’r canllawiau cryfach, a gyflwynwyd ar Ŵyl San Steffan, yn ymateb cymesur i fygythiad iechyd y cyhoedd gan Omicron.

“Mae’r Cabinet yn adolygu’n fanwl yr holl fesurau a gyflwynwyd mewn ymateb i Omicron.”