Mae dyn wedi marw’n dilyn gwrthdrawiad ffordd ym Maentwrog, Gwynedd fore heddiw (5 Ionawr).

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r digwyddiad ar yr A487 ger tafarn yr Oakeley Arms ychydig cyn 11:30 fore heddiw.

Bu farw gyrrwr car BMW glas yn y gwrthdrawiad, a doedd yna’r un cerbyd arall yn rhan o’r digwyddiad.

Mae Heddlu Gogledd Cymru’n apelio am wybodaeth gan unrhyw un oedd yn teithio rhwng Penrhyndeudraeth a Maentwrog ar y pryd, neu unrhyw un sydd â lluniau dash-cam o’r ardal.

“Hoffwn gynnig ein cydymdeimladau diffuant i deulu’r dyn ar yr adeg anodd hon,” meddai’r Rhingyll Raymond Williams o’r Uned Plismona Ffyrdd.

“Rydyn ni’n apelio i unrhyw un a all fod â gwybodaeth; neu unrhyw un a allai fod wedi bod yn teithio ar hyd yr A487 ac a allai fod â lluniau dash-cam, gysylltu â ni ar unwaith.”