Mae Gweinidog Iechyd Cymru, Eluned Morgan, wedi cytuno’n “anfoddog” i wneud newidiadau i’r rheolau ar gyfer teithio rhyngwladol.
Yn unol â phenderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig, mae Llywodraeth Cymru’n dileu’r gofynion i deithwyr sydd wedi’u brechu’n llawn a phlant dan 18 oed wneud prawf cyn ymadael am y Deyrnas Unedig, a phrawf PCR diwrnod dau ar ôl cyrraedd.
Bydd angen i deithwyr sydd wedi’u brechu’n llawn wneud prawf llif unffordd ar ddiwrnod 2, a phrawf PCR wedyn os yw’n bositif, yn lle hynny.
Mae’r gofyniad i hunanynysu hyd nes y ceir prawf negatif hefyd wedi cael ei ddileu.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gynghori pobol i beidio â theithio dramor ar hyn o bryd, oni bai bod rhaid.
Bydd y newidiadau’n dechrau dod i rym o 4am ddydd Gwener, 7 Ionawr, a chaiff profion llif unffordd eu derbyn yn lle PCR’s ar gyfer pobol sy’n cyrraedd y Deyrnas Unedig ar ôl 4am dydd Sul, 9 Ionawr.
“Peryglon parhaus”
Dywedodd Eluned Morgan bod y ffaith bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ailagor teithio rhyngwladol mor gyflym yn “peri pryder”.
“Mae’r ffaith bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ailagor teithiau rhyngwladol mor gyflym yn peri pryder i ni, gan ystyried y pryderon parhaus ynghylch cludo amrywiolion newydd a rhoi pwysau ychwanegol ar ein gwasanaethau iechyd,” meddai Eluned Morgan.
“Mae profion PCR diwrnod 2 yn gweithio fel rhyw faith o system fonitro ar gyfer teithio rhyngwladol.
“Pe bawn wedi cadw’r gofyniad i wneud profion PCR ar ddiwrnod 2, mae’n bosibl y byddem wedi dod yn ymwybodol o bresenoldeb Omicron yn gynt.
“Gan ystyried penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddileu’r gofyniad i wneud profion PCR, mae’n hanfodol ein bod yn gweithio ar draws y pedair gwlad i sicrhau bod system biofonitro yn cael ei chynnal i ddarparu ffordd o warchod yn erbyn cludo amrywiolion yn y dyfodol.”
“Osgoi tanseilio ymdrechion”
Ers i amrywiolyn Omicron ddod i’r amlwg, roedd hi’n hanfodol i deithwyr dros 12 oed ddangos tystiolaeth o brawf llif unffordd neu PCR negyddol oedd wedi’u gwneud o fewn deuddydd cyn dechrau teithio i’r Deyrnas Unedig.
Cyn y newidiadau sydd wedi cael eu cyhoeddi heddiw (5 Ionawr), roedd gofyn i bobol sydd wedi’u brechu’n llawn dalu am brawf PCR er mwyn ei wneud o fewn 48 ar ôl cyrraedd y Deyrnas Unedig.
Dydi’r rheolau ar gyfer pobol sydd heb eu brechu heb newid, ac mae gofyn iddyn nhw wneud prawf PCR ar ddiwrnod dau ac wyth ar ôl cyrraedd y Deyrnas Unedig, a hunanynysu am ddeng niwrnod.
“Wrth i’n system iechyd y cyhoedd weithio’n galed i leihau’r lledaeniad o achosion sydd eisoes yng Nghymru, mae’n hollbwysig ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i osgoi tanseilio’r ymdrechion hyn drwy gludo achosion newydd o heintiau’r coronafeirws drwy deithiau rhyngwladol,” ychwanegodd Eluned Morgan.
“Rydym yn parhau i annog pawb yng Nghymru i gael eu brechu gan gynnwys cael brechiad atgyfnerthu, sy’n hanfodol er mwyn cynyddu lefel ein hamddiffyniad yn erbyn yr amrywiolyn omicron.”