Rhaid i newidiadau i brofion serfigol gael eu “hesbonio’n eglur ac yn uniongyrchol”, meddai llefarydd iechyd a gofal Plaid Cymru.
Daw hyn wedi i ddeiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i beidio ag ymestyn y bwlch rhwng profion sgrinio serfigol gael ei llofnodi gan 741,000 o bobol.
Llwyddiant profion firws papiloma dynol (HPV) sy’n gyfrifol am y newid, meddai Iechyd Cyhoeddus Cymru, ond maen nhw wedi ymddiheuro am achosi pryder drwy fethu ag egluro’r newidiadau’n ddigonol.
Mae’r newid yn berthnasol pan nad oes HPV i’w weld mewn prawf sgrinio serfigol, ac mae’n cyd-fynd ag argymhelliad Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y Deyrnas Unedig.
“Bodlon” â’r dystiolaeth
Mae Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd a gofal Plaid Cymru, wedi ysgrifennu at Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd Cymru, yn gofyn iddi gysylltu â phawb sy’n cael eu heffeithio gan y newidiadau ac egluro’r rhesymau tu ôl i’r newidiadau’n well.
“Mae nifer o filoedd o bobol yng Nghymru’n bryderus am y newid diweddar i sgrinio serfigol – newid sydd wedi bod yn syndod i nifer, ac a oedd yn cynnwys diffyg manylder syfrdanol,” meddai Rhun ap Iorwerth.
“Ar ôl adolygu’r dystiolaeth, ac ar ôl derbyn rhagor o wybodaeth gan Ymchwil Canser UK, dw i’n fodlon bod hwn yn newid ar sail tystiolaeth, yn sgil gwell dealltwriaeth ynghylch y berthynas rhwng sgrinio, brechlyn HPV, a’r risg o ganser.
“Ond mae’n rhaid esbonio hyn yn glir ac yn uniongyrchol, a dyna pam dw i wedi ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd yn gofyn iddi gysylltu â phawb yng Nghymru sy’n cael eu heffeithio gan y newidiadau hyn – fel mater o frys – er mwyn esbonio’r rhesymau tu ôl i’r newid yn y strategaeth sgrinio yn well.”
Ychwanegodd Rhun ap Iorwerth yn ei lythyr at Eluned Morgan ei fod wedi’i “siomi” wrth ddarllen y newydd am y tro cyntaf, ond ei fod yn fodlon ei fod yn “gam synhwyrol” ar ôl cael esboniad gan Ymchwil Canser UK – sy’n cefnogi’r newid.
“Rwy’n ymwybodol bod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ymddiheuro am y diffyg eglurdeb, ond hoffwn i chi ystyried eto sut i gysylltu, ar frys, gyda merched yng Nghymru i dawelu eu hofnau, ac yn wir i egluro pam bod datblygiadau yn ein dealltwriaeth o sut orau i sgrinio am HPV yn gallu dylanwadu’n bositif ar ba mor aml y dylid sgrinio,” meddai.
Roedd y Ceidwadwyr Cymreig wedi gofyn i Lywodraeth Cymru ailystyried y penderfyniad, ac roedd Aelod Canol De Cymru Plaid Cymru, Rhys ab Owen, wedi ysgrifennu at Eluned Morgan yn gofyn iddi wrthdroi’r penderfyniad – gallwch ddarllen mwy am hynny isod.