Byddai plannu’n coed yn helaeth ar dir amaethyddol yn “lladd cymdeithasau”, meddai un ffarmwr o Gonwy.

Mae teulu Dafydd Gwyndaf wedi bod yn ffermio yn Nghwm Penmachno ers tair cenhedlaeth, ac fe wnaeth gwaith coedwigo eang yn yr ardal yn y ganrif ddiwethaf arwain at ddiboblogi’r cwm, meddai.

Yn ddiweddar, mae nifer o bryderon wedi cael eu codi ynghylch cwmnïau mawr o du allan i Gymru’n prynu tir er mwyn plannu coed i wrth-bwyso eu hallyriadau carbon.

Mae angen “cadw balans” rhwng amaethyddiaeth a phlannu coed, meddai Dafydd Gwyndaf, gan ddadlau hefyd fod y diwydiant amaethyddol yn cael eu beirniadu “ar draul cwmnïau mawr” sy’n allyrru carbon.

Rhwng y 40au a’r 60au, cafodd y rhan fwyaf o ffermydd Cwm Penmachno eu pasio i’r Comisiwn Coedwigaeth a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a chafodd coed eu plannu ar y tir.

“Cyn waethed â boddi Tryweryn”

“Rydyn ni wedi gweld beth sydd wedi digwydd yma, yr effaith mae hynny wedi’i gael yma yng nghefn gwlad, i fi mae o jyst cyn waethed â boddi Tryweryn â phethau felly,” meddai Dafydd Gwyndaf wrth golwg360.

“Roedden nhw’n addo’r byd – dweud y byddai’n rhoi mwy o waith i bobol leol nag oedd amaethyddiaeth yn ei roi.

“Erbyn heddiw, does yna neb o’r ardal yn gweithio iddyn nhw. Pan mae rhywbeth yn digwydd, maen nhw’n dod â chontractwyr i mewn i wneud y gwaith.”

Mae Dafydd Gwyndaf, sydd ar Gyngor Bro Machno, yn gyfarwydd â’r problemau sydd wedi’u hachosi gan gontractwyr, gan gynnwys peiriannau a lorïau trwm yn achosi difrod i ffyrdd, a hyd yn oed i adeiladau.

“Rydyn ni wedi llwyddo i fedru i stopio nhw [y Comisiwn Coedwigaeth] fynd drwy bentref Penmachno, ond tasa yna gwmni preifat yn dod i mewn, fel sy’n digwydd, dw i’n meddwl y bysa hi’n dipyn mwy o broblem i ti fedru stopio’r rheiny.”

Fe wnaeth dirywiad y diwydiant llechi, a chau Chwarel Cwm Penmachno, effeithio ar ddiboblogi yn y plwyf, yn ogystal â’r ffaith bod y Comisiwn Coedwigaeth wedi prynu ffermydd, meddai Dafydd Gwyndaf.

“Roedd yna tua 30 o dyddynnod wedi mynd, mae’r ffriddoedd wedi cael eu plannu, ac maen nhw wedi uno ffermydd.

“Mae’r ffarm yma, fy nghartref i rŵan, lle’r oedd yna dair ffarm cynt. Mae yna aml un felly yn y plwyf yma – dyna chdi ddiboblogi i ddechrau.

“Rhaid imi ddweud, mae yna gymdeithas yng Nghwm Penmachno rŵan, ond cymdeithas o bobol sydd wedi symud mewn ydi hi. Ond wedyn mae’n well nag oedd hi ychydig flynyddoedd yn ôl, pan roedd o’n bentref o dai haf i gyd. O leiaf mae yna bobol yn byw yma.”

“Lladd cymdeithasau”

Mae Dafydd Gwyndaf yn dadlau bod tueddiad i roi bai ar amaethyddiaeth am newid i’r hinsawdd, yn hytrach na chwmnïau mawr ag allyriadau carbon uchel.

“Y tiroedd sydd gennym ni ffordd hyn, dydyn ni ddim yn defnyddio llawer o wrtaith – tir mynydd ydi o. Iawn, rydyn ni’n gorfod defnyddio peth wrth gwrs i gael bwyd i’r anifeiliaid, ond os na ti am gael yr anifeiliaid, a phethau felly, mae’r lle’n mynd i fynd yn wyllt,” meddai.

“Tynna di ddefaid oddi ar fynydd, wedyn does gen ti ddim llwybr defaid, trïa di gerdded mewn llefydd lle does yna ddim llwybr defaid, ac mae hi’n mynd yn broblem.

“Planhigion ac ati, roedd yna le ddim ymhell yng Nghwm Eidda yn Ysbyty Ifan, rai blynyddoedd yn ôl roedd yna amryw o blanhigion gwyllt yn tyfu yno.

“Be wnaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol oedd cau o allan, fel bod defaid ddim yn mynd yno, ond mae’r planhigion wedi mynd rŵan, maen nhw wedi cael eu tagu. Mae isio cadw balans.

“Dw i’n meddwl bod amaeth yn ei chael hi ar draul cwmnïau mawr sy’n allyrru carbon allan, gan brynu tir i [wella cynaliadwyedd] eu busnes nhw.

“Maen nhw’n meddwl ‘Plannu coed, dyna fo, grêt’, ond os ydi hyn yn mynd i ddigwydd ar ffermydd, fel sy’n digwydd, yn mynd i gael eu plannu yn garped o goed yna’n bendant mae o’n mynd i ladd cymdeithasau.”

Cefndir

Mae sawl cyngor sir, gan gynnwys Gwynedd, Ceredigion, a Chaerfyrddin, wedi cytuno i bwyso ar Lywodraeth Cymru i newid eu canllawiau er mwyn sicrhau nad yw cwmnïau mawr yn gallu prynu tir yng Nghymru i blannu coed.

Yn ddiweddar, dywedodd Cyfarwyddwr Undeb yr Amaethwyr, John Mercer, wrth gylchgrawn Golwg fod yna “gwestiynau moesegol” yn codi o ran defnyddio tir Cymru ar gyfer plannu coedwigoedd er mwyn galluogi i gwmnïau mawrion leddfu eu hôl troed carbon.

Mae’n debyg bod sawl fferm yn yr ardal rhwng Llanbedr-Pont-Steffan a Llanwrda yn Sir Gaerfyrddin wedi mynd i ddwylo Foresight Group, sydd wedi’u lleoli yn Llundain, ac yn ôl John Mercer, mae gan hyn oblygiad i gynhyrchiant bwyd hefyd.

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Faterion Gwledig, yn ddiweddar ei bod yn “bwriadu “symleiddio’r cymorth” sydd ar gael i ffermwyr.

“Mae’n bwysig ein bod yn dysgu gwersi, ac, er nad yw’n bosibl gwneud newidiadau i’r cynlluniau presennol sydd gennym, fy amcan yw symleiddio ein cymorth i ffermydd yn y dyfodol,” meddai.

“Rhaid gweithio gyda’r gymuned amaethyddol, nid yn ei herbyn” ar fater plannu coed i helpu’r amgylchedd

Mae nifer o bryderon wedi cael eu codi’n ddiweddar ynghylch cwmnïau mawr yn prynu tir yng Nghymru er mwyn plannu coed i leddfu eu hôl troed carbon

Galw am sicrhau bod budd adnoddau naturiol Cymru’n aros yn y wlad

Cyngor Gwynedd yn cytuno i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i newid canllawiau er mwyn sicrhau nad yw cwmnïau mawr yn prynu tir i blannu coed

Pryderon am gwmnïau mawr yn plannu coedwigoedd ar dir ffermio

Sian Williams

“Mae datblygu economi gwyrdd sydd yn cynnal swyddi lleol yn sicr yn help i gymunedau Cymru”