Cyngor Gwynedd yw’r cyngor sir diweddaraf i bwyso ar Lywodraeth Cymru i newid eu canllawiau er mwyn sicrhau nad yw cwmnïau mawr yn gallu prynu tir yng Nghymru i blannu coed.
Ddoe (dydd Iau 2 Rhagfyr), pleidleisiodd cynghorwyr Gwynedd yn unfrydol o blaid rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru i newid y canllawiau ariannu yn eu rhaglenni amaethyddol er mwyn sicrhau nad yw arian cyhoeddus trethdalwyr yn gadael Cymru.
Dywedodd Gethin Glyn Williams, Cynghorydd Plaid Cymru dros Abermaw ar Gyngor Gwynedd a wnaeth y cynnig, ei bod hi’n “egwyddorol anghywir i gwmnïau o du allan i Gymru ddefnyddio grantiau cyhoeddus Cymreig i unioni eu camweddau amgylcheddol”.
“Nid yn unig mae’r cwmnïau yn tynnu oddi ar dir amaethyddol ffrwythlon all gynhyrchu bwyd a chynnal teuluoedd, ond maen nhw hefyd yn tynnu oddi ar y pwrs cyhoeddus Cymreig ar ffurf cynlluniau fel Glastir, er eu lles a’u helw eu hunain,” meddai.
“Cymryd yr awenau”
Yn ôl Plaid Cymru, maen nhw wedi gweld tystiolaeth sy’n dweud bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno ar naw cytundeb gwerth dros £1.3 miliwn i ymgeiswyr o’r tu allan i Gymru dan y rhaglen.
“Dw i’n falch bod cynghorwyr Gwynedd wedi cefnogi’r cais i newid, ar frys, y canllawiau grant Glastir (GWC) fel mai dim ond ffermwyr a thirfeddianwyr gweithredol yng Nghymru sy’n gallu gwneud cais,” meddai Gethin Glyn Williams.
“Dw i hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth datblygu cynllunio i alluogi awdurdodau cynllunio lleol, fel Gwynedd, i reoli prosiectau coedwigo.
“Wedi’r cyfan y balans o warchod yr amgylchedd, buddsoddi yn yr economi, sefydlogi cymunedau a bwydo pobl gyda chynnyrch lleol o safon sy’n bwysig ar ddiwedd y dydd.
“Heb fod bob rhan o’r jig-sô hwnnw yn ei le, bydd hi’n anodd iawn i Gymru lewyrchu.”
Dywedodd Gethin Glyn Williams bod yna gyfle i “gymryd yr awenau a gosod arweiniad o fewn y maes amgylcheddol yng Nghymru” gan sicrhau bod “unrhyw gwmni sy’n awyddus i unioni eu hallyriadau carbon ar dir Cymru yn gwneud hynny er lles yr economi werdd gylchol yng Nghymru”.
“Mae gennym ni hanes, fel cenedl, o golli allan i wledydd mwy o’n cwmpas. Yn hanesyddol, nid ydym wedi llwyddo i gadw’r budd a’r elw o gynhyrchu ac allforio ein hadnoddau naturiol megis dŵr, glo a choed. Mae’r trac record o fuddsoddi’r elw yn ôl i ddiwydiannau, cymunedau a gwasanaethau Cymru yn un gwael,” meddai.
“Ond mae ’na gyfle rŵan i newid hynny.
“Ac mae’n rhaid i’r arweiniad hwnnw ddod gan Lywodraeth Cymru. Dw i’n awyddus i bawb sydd â diddordeb yn hyn, i eistedd i lawr a llunio strategaeth i Gymru sy’n sicrhau ein bod ni’n dod yn wlad garbon niwtral gyntaf, ac yna’n agor y drws i eraill ddod i mewn a buddsoddi yma, er lles yr amgylchedd a’r economi yma yng Nghymru.”
“Cwestiynau moesegol”
Yn ddiweddar, dywedodd Cyfarwyddwr Undeb yr Amaethwyr, John Mercer, wrth gylchgrawn Golwg fod yna “gwestiynau moesegol” yn codi o ran defnyddio tir Cymru ar gyfer plannu coedwigoedd er mwyn galluogi i gwmnïau mawrion leddfu eu hôl troed carbon.
Mae’n debyg bod sawl fferm yn yr ardal rhwng Llanbedr-Pont-Steffan a Llanwrda yn Sir Gaerfyrddin wedi mynd i ddwylo Foresight Group, sydd wedi’u lleoli yn Llundain, ac yn ôl John Mercer, mae gan hyn oblygiad i gynhyrchiant bwyd hefyd.
“Y peth olaf ddylen ni ei wneud nawr yw cau Cymru i lawr o ran cynhyrchu ein bwyd ein hunain,” meddai John Mercer, “a gorfod mewnforio bwyd o wledydd sydd heb yr un safonau o ran yr amgylchedd ac sydd gyda ni yma”.
Mae cynghorau Ceredigion a Chaerfyrddin wedi cytuno i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru yn barod, gyda Chyngor Sir Gaerfyrddin hefyd yn codi’r un pryderon gan ddweud “nad yw coed yn mynd i fwydo ein trigolion”.
“Mae’n bwysig ein bod yn dysgu gwersi, ac, er nad yw’n bosibl gwneud newidiadau i’r cynlluniau presennol sydd gennym, fy amcan yw symleiddio ein cymorth i ffermydd yn y dyfodol,” meddai.