Bydd Bil sy’n ceisio cael gwared ar y sicrwydd bod aristocratiaid yn cael cynrychiolaeth oes yn Nhŷ’r Arglwyddi yn cael ail ddarlleniad yn Nhŷ’r Arglwyddi heddiw (3 Rhagfyr).

Nod Bil yr Arglwydd Grocott yw cael gwared ar yr arfer o ethol arglwyddi etifeddol i Dŷ’r Arglwyddi drwy is-etholiad.

Bydd y Bil yn mynd trwy ei ail ddarlleniad, yn y gobaith o roi diwedd ar broses sy’n golygu bod aristocratiaid yn derbyn seddi am oes drwy bleidlais ymysg llond llaw o arglwyddi etifeddol eraill.

Mae 92 arglwydd etifeddol yn eistedd yn Nhŷ’r Arglwyddi, gan olygu bod tua 11% ohonyn nhw yno yn sgil eu teuluoedd yn unig.

Mae’r Gymdeithas Diwygio Etholiadol yn gofyn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gefnogi’r Bil, a’i ddefnyddio fel cam tuag at ddiwygio Tŷ’r Arglwyddi.

“Hurt”

Dywedodd yr Arglwydd Grocott: “Mae’r is-etholiadau hyn yn hurt.

“Yn y 21ain ganrif, ni ellir cymryd system sy’n golygu bod gennym ni 92 sedd yn Nhŷ’r Arglwyddi lle mai dim ond arglwyddi etifeddol sy’n gallu ymgeisio amdanyn nhw, a dim ond arglwyddi’n gallu pleidleisio, o ddifrif.

“Mae yna saith arglwydd newydd wedi cael eu ‘hethol’ eleni’n unig – mwy nag yn ystod yr un flwyddyn arall ers iddyn nhw gael eu cyflwyno yn 1999.

“Carwn feddwl y gallai’r bil hwn, gyda chefnogaeth, olygu mai nhw fydd y rhai olaf.

“Does yna ddim arglwyddi etifeddol benywaidd yn Nhŷ’r Arglwyddi bellach. Roedd yr is-etholiadau hyn yn hurt o’r dechrau, ond mae’r ffaith bod dyn wedi cael ei ‘ethol’ am bob dynes sydd wedi gadael y siambr yn dangos eu bod nhw ond yn mynd yn fwy hurt.”

“Moderneiddio”

Dywedodd Darren Hughes, Prif Weithredwr y Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol, ei bod hi’n “syfrdanol” bod aristocratiaid etifeddol yn dal i gael sicrwydd o le yn San Steffan.

“Arglwyddi anetholedig yn cael seddi am oes i bleidleisio ar ein cyfreithiau oherwydd dim byd mwy nag amgylchiadau eu genedigaeth – gan adael pleidleiswyr cyffredin heb ddim llais o gwbl,” meddai Darren Hughes.

“Be sy’n waeth yw bod ymdrechion i gael gwared ar yr arfer hynafol hwn yn raddol wedi cael eu rhwystro gan yr un aristocratiaid anetholedig, anatebol sy’n parhau i elwa ohono.

“Ni ddylai’r Bil hwn fod yn un dadleuol – byddai diwygio ar sail synnwyr cyffredin yn gam bach ymlaen i foderneiddio ein hail siambr.

“Mae hi’n amser i ni gymryd moderneiddio ein gwleidyddiaeth o ddifrif.”