Mae banc Barclays wedi derbyn beirniadaeth ar ôl gofyn i gynghorydd ailyrru neges Gymraeg yn Saesneg.

Roedd Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd, Dafydd Meurig, wedi trydar y cwmni yn Gymraeg yn cyfeirio at bwyntiau a gafodd eu codi yng nghyfarfod y cyngor heddiw (2 Rhagfyr).

Wrth ymateb, ymddiheurodd y banc gan ddweud nad oedden nhw’n gallu cyfieithu’r neges, a gofyn amdani’n Saesneg.

O ganlyniad, dywedodd yr Aelod o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, Mabon ap Gwynfor, fod yr ymateb yn “dangos sut mae cymunedau Cymraeg am golli allan wrth i gwmnïau mawr gau banciau’r stryd fawr gan wthio pawb ar-lein”.

“Tydi bancio ar-lein ddim ar gael yn Gymraeg, heb sôn am ofal cwsmer drwy fforymau fel hyn,” meddai.

Aeth yn ei flaen i ofyn mewn trydariad arall: “Ai diogi yntau anwybodaeth sy’n golygu nad ydyn nhw’n medru gwasgu botwm ‘Translate Tweet’ ar drydar Cymraeg?!”

“Effaith andwyol”

Roedd trydariad gwreiddiol Dafydd Meurig yn diolch i’r Cynghorydd Nia Jeffreys am dynnu sylw at y ffaith bod Barclays am gau canghennau, fel rhai Porthmadog a Chaernarfon, ac awgrymu bod Cyngor Gwynedd am droi cefn ar y banc er mwyn symud at Fanc Cambria.

Mae Plaid Cymru wedi bod yn pwyso ar Barclays i beidio cau’r canghennau, gyda Hywel Williams, Aelod Seneddol Arfon, yn dweud bod canghennau megis un Caernarfon yn darparu “gwasanaethau bancio hanfodol i’r cymunedau a’r busnesau lleol”.

Mae Mabon ap Gwynfor wedi ysgrifennu llythyr agored at y banc hefyd yn gofyn iddyn nhw beidio â chau cangen Porthmadog.

“Nid ydym yn cytuno â chyngor Barclays y dylai pob cwsmer symud i fancio ar-lein oherwydd nad oes gan bawb fynediad at gysylltiad rhyngrwyd dibynadwy, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig fel rhannau o Ddwyfor Meirionnydd lle mae cysylltedd digidol dibynadwy yn broblem,” meddai yn y llythyr.

“Mae llawer o bobl hŷn hefyd yn amharod i ddefnyddio’r rhyngrwyd ar gyfer unrhyw faterion ariannol.

“Wrth i’n cymunedau wella o effeithiau Covid, dylid cadw gwasanaethau wyneb yn wyneb er mwyn cefnogi pobl fregus mewn cymunedau bregus. Bydd dod â gwasanaethau bancio i ben ym Mhorthmadog yn cael effaith andwyol a phellgyrhaeddol ar elusennau a grwpiau cymunedol yn yr ardal sy’n aml yn dibynnu ar arian parod.

“Yn ôl yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, mae pobl yng Nghymru yn fwy tebygol o orfod teithio pellteroedd mawr i gyrraedd cangen banc: mae 7.5% o gartrefi yn gorfod teithio 16km neu fwy.

“Rydym yn galw ar Fanc Barclays i gefnogi trigolion a busnesau lleol ym Mhorthmadog trwy gadw gwasanaethau bancio yn y dref. Rydym yn fawr obeithio y bydd Barclays yn ailystyried yr ergyd ddinistriol hon i Borthmadog.”

Mae disgwyl i ganghennau Caernarfon a Phorthmadog, yn ogystal â Gorseinon, Port Talbot, Mynwy a Chas-gwent, gau fis Chwefror.

Bydd Barclays yn cynnal sesiynau paned a sgwrs i bobol sydd eisiau gwybod mwy am wasanaethau bancio ar-lein, medden nhw.

“Gwerthfawrogi” cwsmeriaid Cymraeg

Dywedodd llefarydd ar ran Barclays fod y banc yn “gwerthfawrogi” cwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg, a’u bod nhw’n “gweithio’n galed” er mwyn gwella eu darpariaeth i siaradwyr Cymraeg.

Wrth gyfeirio at rai o’r gwelliannau, cyfeiriodd Barclays at eu canolfan Gymraeg yn Hwlffordd, gan ddweud bod posib i bobol ffonio’r ganolfan i drafod eu cyfrifon yn Gymraeg.

Mae’r banc wedi lansio tudalen ar gyfer siaradwyr Cymraeg, sy’n cynnwys fideos yn dangos sut i ddefnyddio rhannau o ap Barclays, meddai’r llefarydd.

Mae gan ddyfeisiadau hunanwasanaeth, Pwyntiau Gwasanaeth Sydyn a Chownteri Gwasanaeth gyda Chymorth y banc opsiynau Cymraeg hefyd, meddai, ac maen nhw’n caniatáu i bobol â nam golwg wrando ar yr opsiynau drwy’r Gymraeg.

Er mwyn cefnogi eu cynllun datblygu, mae’r cwmni wrthi’n casglu gwybodaeth am gydweithwyr sy’n dymuno datblygu eu sgiliau Cymraeg, gyda’r bwriad o gynnig gwersi Cymraeg am ddim drwy’r gwasanaeth Dysgu Cymraeg.

“Rydyn ni wedi cynnig ein cynllun Datblygu Cymraeg i Gomisiynydd y Gymraeg gyda’r bwriad o gael cydnabyddiaeth swyddogol am y gwaith mae Barclays yn ei wneud i gefnogi’r Gymraeg drwy’r gwasanaethau sydd ar gael i gwsmeriaid a chydweithwyr,” meddai llefarydd ar ran y banc.

“Rydyn ni’n edrych yn barhaus am ffyrdd i wella’r gwasanaethau rydyn ni’n eu cynnig.”

Llun arian papur.

Plaid Cymru yn pwyso ar fanc Barclays i beidio cau cangen Caernarfon

Mae’r banc yn bwriadu cau’r gangen ar 18 Chwefror 2022