Mae Aelodau Llafur o’r Senedd yn cwestiynu gweithrediad y Cytundeb Cydweithio rhwng Llafur a Phlaid Cymru, a lofnodwyd yn ffurfiol yr wythnos hon.

Yn ôl Alun Davies, AoS Llafur dros Flaenau Gwent fe ddylai aelodau Plaid Cymru fod yn destun craffu os ydynt yn rhan o benderfyniadau Llywodraeth Cymru.

Dan y cytundeb newydd ni fydd aelodau Plaid Cymru’n dod yn weinidogion yn y cabinet, ond byddant yn cael dau gynghorydd arbennig, sydd wedi eu hariannu gan Lywodraeth Cymru i weithio ar y fargen.

Yn ôl Alun Davies, AoS dros Flaenau Gwent a fu’n gyn-Weinidog yng nghabinet Carwyn Jones, mae angen adolygiad brys o sut mae’r Senedd yn gweithio gan fod Plaid Cymru bellach yn “amlwg yn rhan” o Lywodraeth Cymru.

Mae Hefin David, AoS Llafur dros Gaerffili am i Lywydd y Senedd sicrhau bod yr aelodau sy’n cael eu penodi gan y Blaid i eistedd ar bwyllgorau, hefyd yn cael eu galw i ateb cwestiynau yn y Senedd.

‘Dw i am graffu arnyn nhw’

Doedd y ddau aelod ddim yn rhan o’r broses negodi rhwng y ddwy blaid i ddod at gytundeb cydweithio a ddaeth i rym yn swyddogol ddoe (Rhagfyr 1).

“Y mater allweddol yw bod aelodau dynodedig yn atebol – dyna’r peth pwysicaf,” meddai Hefin David AoS.

“Rwy’n credu na allwch gael gweinidogion y llywodraeth yn ateb cwestiynau yn y siambr ac nid aelodau Plaid Cymru os ydynt yn ymwneud â gwneud penderfyniadau’r llywodraeth.

“Rydw i eisiau craffu arnyn nhw. Rwyf am ofyn y cwestiynau iddynt ac mae angen i’r mecanweithiau fod ar waith ar gyfer hynny.”

Dywedodd Mr David ei fod yn cefnogi’r cytundeb yn “llwyr” ond fe “ddylai’r dull o sut mae’n gweithio fod yn hawl i holl aelodau’r Senedd.”

‘Aelod Dynodedig Arweiniol’

Ddoe (dydd Mercher 1 Rhagfyr) fe gyhoeddodd Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, mai Sian Gwenllian, AoS Arfon, fydd yr ‘Aelod Dynodedig Arweiniol’ ar y Cytundeb Cydweithio a fydd yn cydweithio â’r Llywodraeth ar y cytundeb newydd.

Bydd aelodau dynodedig yn cymryd rhan mewn pwyllgorau gyda gweinidogion gan gael mynediad at gymorth fel gweision sifil.

Fe gwestiynodd Hefin David y cyhoeddiad ar ei gyfrif Twitter: “Nid oes rôl gyfansoddiadol i ‘Aelod Dynodedig Arweiniol’, beth bynnag fo hynny.

“Rydych naill ai’n weinidog yn y Llywodraeth neu ddim.

“Dylai rolau newydd gael eu diffinio a’u cytuno’n glir drwy bleidlais gan y Senedd gyfan.”

Bydd gwleidyddion Plaid Cymru hefyd yn cael cyfrannu at ddatganiadau i’r wasg y Llywodraeth, a chaiff cynadleddau rheolaidd eu cynnal ar y cyd gan Adam Price a Mark Drakeford.

Gwell clymblaid na chytundeb?

Wrth siarad am y cytundeb ar Hawl i Holi ar BBC Radio Cymru, dywedodd Rhun ap Iorwerth, Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Ynys Môn, y byddai’n well ganddo pe bai’n glymblaid.

“Rwy’n credu bod cydweithio yn beth da. Yn bersonol, byddai’n well gen i pe bai’n glymblaid,” meddai Rhun ap Iorwerth.

“Yn sicr mae yna heriau wrth wneud i unrhyw beth newydd weithio, a byddwn yn gwneud iddo weithio,” meddai wrth wrthod y syniad ei fod yn chwilio am swyddi i aelodau Plaid Cymru fel gweinidogion yn y cabinet.

“Dw i ddim yn credu bod gwleidyddion yn ei wneud am resymau mor bersonol,” meddai.

Dywedodd fod y cytundeb yn un “cyffrous”, ond nad yw hynny’n golygu na fydd tensiynau.

“Efallai na fydd yn hawdd trwy’r amser, ond mae gennym ni gytundeb ac rydyn ni’n awyddus i’w weithredu.”

‘Cyd-wrthblaid’ a chyngor cyfreithiol

Mae’r Llywydd Elin Jones eisoes wedi dweud bydd yn ceisio cyngor cyfreithiol ynghylch y cytundeb cydweithio ac effaith y cytundeb ar fusnes y Senedd gan gynnal trafodaeth â phob plaid.

Eisoes mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cwestiynu’r cytundeb a’i effaith ar statws yr wrthblaid.

Ddoe (Rhagfyr 1) fe ddywedodd Darren Millar, Gweinidog Cysgodol yr wrthblaid: “Ni allwn fforddio i hygrededd busnes y Senedd gael ei danseilio gan ystyried ei rôl hanfodol o ran craffu a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.

Mae Plaid Cymru yn disgrifio ei sefyllfa fel ‘cyd-wrthblaid’, fel plaid sy’n cytuno ar 46 o feysydd polisi gyda’r Llywodraeth, ond sydd â’r hawl i anghytuno fel y mynnent ar bynciau sydd ddim wedi eu cynnwys.

Fe gwestiynodd Alun Davies ble roedd y cytundeb yn gadael statws rhai aelodau:

“Wrth gael mynediad i’r gwasanaeth sifil a rôl mewn goruchwylio’r gyllideb ni allant gynnal eu sefyllfa fel gwrthblaid arall yn unig.

“Mae hyn yn arwain at ganlyniadau i’r Senedd a sut rydym yn trefnu ac yn rheoli goruchwyliaeth seneddol o’r llywodraeth. Mae angen adolygiad brys o reolau sefydlog y Senedd i adlewyrchu’r sefyllfa newydd hon.”

Doedd Llafur Cymru ddim am wneud sylw pellach ar y pwnc wrth Golwg360.

Mae Golwg360 wedi gofyn i Blaid Cymru am ymateb.

  • Gallwch ddarllen cyfweliad ag Adam Price yn trafod y cytundeb yn Golwg yr wythnos hon, isod.

Adam Price: Y tad sydd dal yn Fab Darogan?

Jacob Morris

“Penderfynais godi fy hun nôl lan ac edrych ar ffyrdd eraill o wireddu’r hyn roeddwn am weld [ar gyfer] Cymru”

Y Llywydd yn cymryd cyngor cyfreithiol ynghylch cytundeb Llafur a Phlaid Cymru

Jacob Morris

Yn ôl Elin Jones mae’r “trefniadau” yn newydd ac yn codi cwestiynau am y ffordd mae’r Senedd yn cynnal ei busnes

Arwyddo’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llafur a Phlaid Cymru

Mae arwyddo’r cytundeb heddiw (Rhagfyr 1) yn nodi dechrau ar bartneriaeth rhwng y ddwy blaid a fydd yn para tair blynedd.