Mae’r arian sy’n cael ei gynnig i gynghorau yn y gorllewin i geisio lliniaru’r argyfwng ail gartrefi yn “swm pitw”, yn ôl mudiad Dyfodol i’r Iaith.

Mewn ymateb i’r her o leihau nifer y tai gwyliau ac ail gartrefi mewn cymunedau, mae Llywodraeth Cymru’n cynnig £2m i Wynedd, a £1m yr un i Ynys Môn, Ceredigion, Sir Benfro, a Sir Gaerfyrddin.

Mae’r cynnig ariannol hwnnw yn cyfateb yn fras i brynu neu godi 24 o dai, meddai Dyfodol i’r Iaith, gan ddweud nad yw’n cyfateb â “maint yr argyfwng”.

Mae Cynog Dafis, aelod o Fwrdd Dyfodol i’r Iaith, wedi llunio adroddiad sy’n amlinellu’r hyn sydd ei angen o ran cyllid, a’r camau gweithredu er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng mewn ardaloedd lle mae’r Gymraeg yn iaith gymdeithasol.

Yn yr adroddiad, mae’r cyn-Aelod Seneddol Cynog Dafis yn awgrymu dull o ddefnyddio twristiaeth i greu ffrwd incwm ychwanegol er mwyn darparu cartrefi i bobol leol a hybu’r economi.

Awgrymiadau

Mae Cynog Dafis yn galw ar Lywodraeth Cymru i glustnodi £200m o gyfalaf i’w wario’n bennaf yn yr ardaloedd gorllewinol, “lle mae’r argyfwng tai ar ei fwyaf dwys a’r effaith ar yr iaith Gymraeg i’w theimlo gryfaf”.

Byddai hyn yn galluogi i 800 o dai gael eu prynu neu eu codi, yn fras, meddai.

Byddai’r tai hyn yn cael eu defnyddio mewn dwy ffordd, i ddechrau fel cyfran o gartrefi cymdeithasol i ateb y galw lleol, gydag opsiwn rhan-berchnogaeth, ac yn ail fel cyfran o dai gwyliau mewn perchnogaeth gyhoeddus.

Byddai’r elw o’r tai gwyliau yn cael ei ddefnyddio i greu cronfa i sybsideiddio’r cartrefi cymdeithasol, a hyrwyddo datblygiadau fyddai o fudd i’r gymdeithas leol a’r gorllewin yn gyffredinol.

Mae Cynog Dafis yn awgrymu y gallai consortiwm o’r siroedd perthnasol, Prosiect Arfor, neu Unnos, y corff mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu ei sefydlu maes o law i ddarparu tai, fod yn gyfrifol am oruchwylio’r gwaith.

Yn y dyfodol, byddai’n bosib ystyried trosglwyddo’r stoc dai i berchnogaeth cwmnïau cymunedol, ond mae angen sicrhau mai’r sector cyhoeddus sy’n rheoli’r gwaith yn y tymor byr a chanolig, meddai.

Comisiynu astudiaeth “ar frys”

Mae Dyfodol i’r Iaith yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu astudiaeth fanwl, ar frys, i botensial ac agweddau ymarferol y cynllun bras.

“Dylai fod modd cyhoeddi canlyniadau astudiaeth o’r fath erbyn Pasg 2022 er mwyn symud ymlaen wedyn i’w roi mewn gweithrediad,” meddai Cynog Dafis.

“Yn y cyfamser mae’n bwysig peidio gohirio.

“Tra bod y syniad yn cael ei archwilio, dylid darparu adnoddau digonol i awdurdodau lleol ymyrryd yn y farchnad, drwy brynu ac adnewyddu neu godi tai newydd fel sy’n addas.

“Mae’r mudiad yn llwyr gefnogol i argymhellion adroddiad Simon Brooks ac yn edrych ymlaen at weld eu gweithredu’n llawn.”

Cafodd yr awgrymiadau eu cyhoeddi’n wreiddiol yn Golwg a’r Western Mail llynedd, wele isod, ac mae Cynog Dafis ar ddeall bod Llywodraeth Cymru yn eu hystyried.

Troi Tai Gwyliau yn Ased Cymreig

Fy marn i yw bod eisiau meddwl yn fwy strwythurol-radical o’r hanner