Fe fydd aelodau’r lluoedd arfog yn cael eu hanfon i ysbytai yn Llundain er mwyn helpu staff y Gwasanaeth Iechyd (GIG) oherwydd prinder gweithwyr yn sgil Covid-19, meddai’r Weinyddiaeth Amddiffyn.
Mae 200 o aelodau’r lluoedd arfog ar gael ar gyfer ysbytai ar draws Llundain, sydd wedi gweld cynnydd aruthrol mewn achosion o Omicron.
Daw’r cyhoeddiad ar ôl i Boris Johnson ddweud yr wythnos hon eu bod yn gobeithio dod dros y don ddiweddaraf o Covid heb yr angen i gyflwyno rhagor o gyfyngiadau yn Lloegr.
Yn ôl y Weinyddiaeth Amddiffyn, fe fydd 40 o feddygon y fyddin a 160 o filwyr ar gael i helpu gyda dyletswyddau cyffredinol er mwyn llenwi’r bwlch yn sgil absenoldebau staff y GIG sy’n methu gweithio am eu bod yn sâl neu’n gorfod hunan-ynysu.
Fe fyddan nhw’n anfon 40 o dimau o bump o bobl, gan gynnwys meddyg a phedwar aelod cynorthwyol ac yn cael eu targedu mewn ardaloedd lle mae eu hangen. Mae disgwyl iddyn nhw fod ar gael am y tair wythnos nesaf.
Yn ogystal fe fydd 32 o filwyr yn rhoi cymorth i Wasanaeth Ambiwlans canol Llundain, a fydd yn gweithio ochr yn ochr â pharafeddygon hyd at ddiwedd mis Mawrth.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Ben Wallace: “Mae dynion a menywod ein lluoedd arfog unwaith eto yn camu i mewn i gefnogi eu cydweithwyr ymroddedig yn y GIG wrth iddyn nhw weithio law yn llaw i amddiffyn y genedl rhag Covid-19.”
Ond mae cyfarwyddwr y Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN) yn Lloegr, Patricia Marquis, wedi dweud bod y cam diweddaraf yma yn golygu nad yw’r Llywodraeth bellach yn gallu gwadu bod “argyfwng staffio” yn y GIG.
“Ni all y Prif Weinidog ac eraill bellach wfftio cwestiynau ynghylch gallu staff y GIG i ddarparu gofal diogel,” meddai.
Mae tua 1,800 o aelodau’r lluoedd arfog eisoes yn rhoi cymorth i awdurdodau ar draws y Deyrnas Unedig wrth iddyn nhw ymateb i’r pandemig.
Mae’n cynnwys 313 o aelodau sy’n helpu Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a 96 gyda Gwasanaeth Ambiwlans yr Alban, gyda mil o aelodau eraill yn helpu gyda’r rhaglen frechlynnau.
Yn ôl ffigurau’r Llywodraeth mae 17,988 o bobl yn yr ysbyty yn y DU gyda Covid-19 ers 5 Ionawr, cynnydd o 50%, a’r cyfanswm uchaf ers 18 Chwefror y llynedd.