Mae’r rheolau profi Covid-19 ar gyfer pobl sy’n teithio i’r Deyrnas Unedig wedi cael eu llacio.
Mae’n golygu na fydd teithwyr sydd wedi cael eu brechu’n llawn yn gorfod cymryd prawf Covid cyn dechrau ar eu taith i’r DU, meddai Boris Johnson. Fyddan nhw hefyd ddim yn gorfod hunan-ynysu ar ôl cyrraedd nes eu bod yn cael prawf PCR negatif.
Fe fydd y rheolau yn dychwelyd i’r system oedd mewn lle ym mis Hydref, gyda phobl yn gorfod cymryd prawf llif unffordd dim hwyrach na’r ail ddiwrnod ar ôl cyrraedd y DU.
Serch hynny, nid yw profion am ddim gan y Gwasanaeth Iechyd (GIG) yn gallu cael eu defnyddio ar gyfer teithiau rhyngwladol. Mae’n rhaid i’r prawf ar ôl cyrraedd gael ei brynu gan ddarparwyr preifat.
Tra bod y diwydiant teithio wedi croesawu’r penderfyniad i lacio’r cyfyngiadau, mae’r Llywodraeth yn wynebu galwadau i fynd ymhellach a dod a’r gofynion prawf i ben yn gyfan gwbl ar gyfer teithwyr sydd wedi’u brechu.