Fe wnaeth prisiau tai yng Nghymru gynyddu 14.5% rhwng Rhagfyr 2020 a Rhagfyr 2021, yn ôl yr ystadegau diweddaraf.

Ar gyfartaledd, roedd tŷ yng Nghymru’n costio £205,579 ym mis Rhagfyr llynedd, meddai ystadegau a gyhoeddwyd gan Halifax.

Mae’r cynnydd mewn prisiau yn parhau i fod yn uwch yng Nghymru nag yn unrhyw ardal neu wlad arall yn y Deyrnas Unedig.

Roedd y twf blynyddol rhwng Rhagfyr 2020 a 2021 yn llai na’r twf blynyddol rhwng Tachwedd 2020 a 2021, yn ôl ystadegau Halifax, pan welwyd cynnydd o 14.8% mewn prisiau.

O gymharu, roedd y cynnydd cyfartalog dros y Deyrnas Unedig yn 9.8% rhwng Rhagfyr 2020 a 2021, gyda thŷ’n costio £276,091 ar gyfartaledd.

Daw hyn wrth i Ddyfodol i’r Iaith awgrymu heddiw (dydd Gwener 7 Ionawr)  y dylid defnyddio twristiaeth i greu incwm ychwanegol i ddarparu cartrefi i bobol leol yn sgil yr argyfwng.

Hyder i brynu

Fe wnaeth prisiau cyfartalog dros y Deyrnas Unedig gyrraedd eu lefelau uchaf erioed yn 2021 wyth gwaith, er gwaethaf y cyfnodau clo, meddai Halifax.

“Fe wnaeth y diffyg cyfleoedd gwario tra’r oedd y cyfyngiadau mewn grym helpu i roi hwb i gronfeydd ariannol aelwydydd,” meddai Russell Galley, rheolwr gyfarwyddwr Halifax.

“Byddai’r ffactor hwn, ar y cyd â’r egwyl gyda threth stamp [Treth Trafodiadau Tir yng Nghymru] a’r ras am le o ganlyniad i weithio o adre, wedi annog prynwyr i brynu tai’r oedden nhw wedi meddwl eu prynu eleni yn gynharach.

“Fe wnaeth ymestyn rhaglenni swyddi a chymorth incwm Llywodraeth [y Deyrnas Unedig] gefnogi’r farchnad lafur hefyd, a gallai fod wedi rhoi hyder i rai aelwydydd fwrw ymlaen â phryniannau.”

Mae prinder yn y tai sydd ar gael i’w gwerthu, a chyfraddau morgeisi hanesyddol o isel, wedi helpu i yrru’r cynnydd mewn prisiau tai blynyddol hefyd, ychwanegodd.

Disgwyl i’r twf arafu

Mae disgwyl i’r twf mewn prisiau arafu’n “sylweddol” dros y flwyddyn hon, meddai’r adroddiad.

“Wrth edrych ymlaen, mae’r posibilrwydd y gallai cyfraddau llog godi ymhellach fyth eleni er mwyn mynd i’r afael â chwyddiant, a phwysau cynyddol ar gyllidebau aelwydydd, yn awgrymu y bydd y cynnydd mewn prisiau tai yn arafu’n sylweddol,” meddai Russell Galley.

“Ein disgwyliad yw y bydd prisiau tai’n parhau ar y lefel gref bresennol ond y bydd twf, o gymharu â’r ddwy flynedd ddiwethaf, ar gyflymder arafach.

“Fodd bynnag, mae yna nifer o bethau all newid a allai wthio prisiau tai naill ffordd neu’r llall, yn dibynnu at sut mae’r pandemig yn parhau i effeithio’r amgylchedd economaidd.”

Ond dywedodd Myron Jobson, ymgyrchydd cyllid personol, fod prisiau tai dal yn codi’n gyflymach na chyflogau, “gan ei gwneud hi’n anodd i bobol sydd eisiau prynu am y tro gyntaf gasglu blaendal”.

“Bydd y cynnydd tebygol mewn cyfraddau morgeisi dros y flwyddyn nesaf yn cyfrannu ymhellach tuag at wneud perchen tŷ yn anfforddiadwy,” meddai.

Ail gartrefi: Yr arian sy’n cael ei gynnig i gynghorau yn y gorllewin yn “swm pitw”, yn ôl Dyfodol i’r Iaith

Mae’r mudiad yn awgrymu defnyddio twristiaeth i greu incwm ychwanegol i ddarparu cartrefi i bobol leol