Mae Boris Johnson yn wynebu cwestiynau o’r newydd dros ei gefnogaeth i gynllun am “Arddangosfa Fawr” sy’n gysylltiedig â noddwr y Blaid Geidwadol a’i helpodd i dalu am ailaddurno’i fflat yn Downing Street.
Mae Llafur yn dweud fod gan Boris Johnson “gwestiynau pwysig i’w hateb” dros y negeseuon hyn.
Mae Rhif 10 yn dweud bod pob Prif Weinidog yn ei dro wedi derbyn cynigion tebyg o bryd i’w gilydd.
Daw hyn wrth i Boris Johnosn gael ei feirniadu gan ei ymgynghorydd safonau ei hun am fethu â chyflwyno’r negeseuon Whattsapp yn ystod ymchwiliad swyddogol i ailaddurno fflat Downing Street y llynedd.
Daeth y negeseuon i’r amlwg yn ystod ymchwiliad ar wahân gan y corff gwarchod etholiadau i ariannu’r gwaith adnewyddu, yr amcangyfrifir ei fod wedi costio £112,000.
Y Negeseuon
Yn y negeseuon o fis Tachwedd 2020, mae Mr Johnson yn disgrifio rhan o’r fflat uwchben 11 Downing Street, lle mae’n byw gyda’i wraig Carrie a’u plant, fel “tipyn o domen o hyd”.
Mae’n gofyn a all y dylunydd mewnol, Lulu Lytle, gysylltu â’r Arglwydd Brownlow “am gymeradwyaeth”.
Ychwanegodd y Prif Weinidog: “Rwy’n gweithio ar y cynllun arddangosfa fawr a byddaf yn dod nôl atoch.”
Mae hyn yn gyfeiriad at gynnal “arddangosfa fawr” sydd wedi ei ysbrydoli gan yr Arddangosfa Fawr gyntaf yn Hyde Park yn 1851, ac sydd wedi derbyn cefnogaeth gan yr Arglwydd Brownlow.
Mewn ymateb fe ddiolchodd yr Arglwydd Brownlow i’r Prif Weinidog ac mae adroddiadau’n dangos i Boris Johnson gwrdd â’r Ysgrifennydd Diwylliant ar y pryd, Oliver Dowden, i drafod y syniad.
Yn wreiddiol fe ofynnwyd i’r Arglwydd Brownlow i oruwchwilio ymddiriedolaeth elusennol er mwyn ariannu’r gwaith, ond fe gafodd y cynlluniau hynny eu gollwng.
Cafodd taliadau eu gwneud i gyflenwyr yn uniongyrchol ac anuniongyrchol gan yr Arglwydd Brownlow.
Fis diwethaf fe dderbyniodd y Blaid Geidwadol ddirwy o £17,800 gan y Comisiwn Etholiadol ar ôl canfod fod y Blaid wedi methu â datgan holl gyfraniadau’r Arglwydd Brownlow at y gwaith adnewyddu.
Mae Boris nawr yn dweud ei fod wedi talu am gostau’r gwaith ailwampio o’i boced ei hun.
“Cwestiynau i’w hateb”
Yn ôl Dirprwy arweinydd Llafur, Angela Rayner mae’n ymddangos fod gan yr Arglwydd Brownlow fynediad arbennig i Boris Johnosn ac Oliver Dowden “gan ei fod yn talu am fflat moethus y Prif Weinidog.”
Ychwanegodd: “Os felly, mae hynny’n llygredd cwbl glir a syml. Ni ddylai neb allu prynu mynediad na chyfnewid papur wal i gael cynnal gwyliau.
“Mae gan Boris Johnson gwestiynau difrifol i’w hateb.”
Dywedodd llefarydd ar ran Downing Street: “Mae pob prif weinidog a gweinidog yn derbyn cynigion o bryd i’w gilydd ac mae gweinidogion hefyd yn cwrdd â rhanddeiliaid yn rheolaidd fel rhan o’u gwaith ar amrywiaeth o faterion.”