Mae Mark Drakeford yn rhagweld na fydd cyfyngiadau Covid-19 Cymru’n cael eu llacio am y bythefnos nesaf.
Mewn cynhadledd i’r wasg heddiw (7 Ionawr), dywedodd bod disgwyl i’r don hon o achosion Omicron gyrraedd ei brig yn y deg i 14 diwrnod nesaf.
Bydd Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa i ystyried llacio’r cyfyngiadau os bydd yr achosion yn dilyn y modelu, ac yn dechrau gostwng ymhen tua phythefnos, meddai.
“Mae niferoedd yr achosion yn debygol o barhau i godi,” meddai Mark Drakeford.
“Felly, ni fyddwn yn llacio nes ein bod wedi pasio brig yr achosion, ac rydym yn sicr y gallwn weld y pwysau o ymlediad y feirws hwn yn y gymuned yn dechrau lleihau.
“Nid wyf yn rhagweld y byddwn mewn sefyllfa i symud i ffwrdd o lefel y cyfyngiadau sydd gennym ar hyn o bryd dros y pythefnos nesaf, ond byddwn yn edrych ar hynny yn ddyddiol.”
Mae newidiadau wedi cael eu gwneud yn barod i’r rheolau ynghylch profi a theithio rhyngwladol.
Y sefyllfa bresennol
Omicron yw’r amrywiolyn amlycaf yng Nghymru erbyn hyn, ac mae tua 2,300 achos i bob 100,000 person, meddai Mark Drakeford.
Mae’r achosion ar eu huchaf ymhlith pobol 20 i 39 oed, ond mae’r achosion yn codi ymysg grwpiau hŷn hefyd.
Erbyn hyn, mae 994 o bobol yn yr ysbyty gyda Covid-19, y nifer uchaf ers mis Mawrth 2021 a chynnydd o 43% o gymharu â’r wythnos ddiwethaf.
Mae 40 ohonyn nhw mewn unedau gofal dwys, ac ers dechrau’r flwyddyn mae 38 o bobol wedi marw gyda Covid-19 ledled y wlad.
Dywedodd Mark Drakeford bod y don hon o achosion yn ychwanegu at y pwysau ar y gwasanaeth iechyd a gwasanaethau cyhoeddus eraill.
Ar hyn o bryd, mae tua 8.3% o weithlu’r gwasanaeth iechyd yn absennol yn sgil salwch neu hunanynysu, meddai, gyda’r ganran yn codi i 16.4% mewn rhai sefydliadau.
Ychwanegodd na fyddai’n iawn dweud bod y gwasanaeth iechyd wedi’i “lethu”, ond mae byrddau iechyd yn wynebu penderfyniad ac amgylchiadau “heriol iawn”, meddai, gan gyfeirio at unedau geni yn y de sydd wedi gorfod cau yn sgil absenoldebau.
Lloegr yn “eithriad byd-eang”
Dywedodd Mark Drakeford yn y gynhadledd mai Lloegr yw’r “eithriad byd-eang” o ran cyfyngiadau Covid, yn hytrach na Chymru.
Pan ofynnwyd iddo pam nad yw rheolau Cymru’r un fath â rhai Lloegr, dywedodd y byddai’n “newid y cwestiwn”.
“Nid Cymru yw’r eithriad yma,” meddai.
“Mae Cymru’n gweithredu fel y mae gwledydd eraill dros Ewrop a’r byd. Yr unig wlad sy’n sefyll allan yw Lloegr.
“Y cwestiwn yw pam fod Lloegr yn gymaint o eithriad byd-eang o ran llywodraethau’n gwarchod eu poblogaeth, nid pam nad yw Cymru’n dilyn Lloegr.
“Yma yng Nghymru, mae gennym ni lywodraeth sy’n alluog i weithredu, ac sy’n benderfynol o wneud hynny pan fo angen, yn Lloegr mae gennym ni lywodraeth sydd wedi’i pharlysu’n wleidyddol. Ni all y Prif Weinidog weithredu ar gyngor ei gynghorwyr.
“Hyd yn oed petai’r Cabinet yn cytuno ag ef, fyddai’r Aelodau Seneddol ddim yn ei basio.”
Wrth ymateb i ddisgrifiad Boris Johnson o gyfyngiadau fel rhai “hurt” a “baróc”, dywedodd Mark Drakeford ei fod yn poeni’n fwy am farn pobol yng Nghymru na barn “sylwebydd cymharol bell i ffwrdd”.
“Dw i ddim yn meddwl am eiliad bod y Prif Weinidog, Boris Johnson, yn gyfarwydd gyda’r manylion am beth sydd yn mynd ymlaen yma yng Nghymru, roedd e jyst yn trïo gwneud pwynt gwleidyddol yn Nhŷ’r Cyffredin,” meddai.
“Dw i ddim yn talu lot o sylw at y pethau wedodd e yn y cyd-destun yna.
“Mae’r rheoliadau sydd gyda ni yng Nghymru yn rheoliadau clir, rheoliadau rydyn ni wedi’u defnyddio yn ystod y pandemig, rydyn ni wedi mynd yn ôl atyn nhw. Mae pobol yng Nghymru yn gyfarwydd gyda nhw.
“Mae’r dystiolaeth yn dangos bod cymorth pobol yng Nghymru yn dal i fod yna i wneud pethau rydyn ni’n gofyn iddyn nhw eu gwenud, a dw i jyst yn hapus i fod yn y sefyllfa yna.
“Dw i’n rhoi mwy o bwys ar farn pobol Cymru am yr hyn sy’n mynd mlaen yng Nghymru, nad ydw i ar ryw sylwebydd sy’n weddol bell i ffwrdd.”
Cymorth i fusnesau
Fe wnaeth Mark Drakeford awgrymu na allai gyflwyno mesurau llymach gan y byddai angen cymorth ariannol gan drysorlys y Deyrnas Unedig.
“Er gwaethaf ymdrechion i gael Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ymddwyn mewn ffordd gyfrifol – gennym ni, yr Alban a Gogledd Iwerddon – dydyn ni heb gael yr ateb rydyn ni’n credu yr ydyn ni’n ei haeddu.”
Wrth ymateb i gwestiwn am y cyfyngiadau ar y sector, dywedodd y Prif Weinidog fod busnesau’n cael eu heffeithio’n barod cyn y cyfyngiadau.
“Roedd busnesau’n cael eu heffeithio, nid gan weithredoedd y llywodraeth, ond gan y ffaith bod pobol yn gwneud penderfyniadau dros eu hunain, hefyd, cyn i ni gyflwyno rheoliadau lefel 2, oherwydd roedden nhw’n gallu gweld y rhifau’n codi.
“Mae pobol yn ymddwyn yn fwy gofalus dan yr amgylchiadau hynny. Felly mae’r effaith ar y sector wedi bod yn un gwirioneddol,” meddai gan ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi neilltuo £120m ar gyfer mis Ionawr a dechrau Chwefror i fynd i’r afael â’r sefyllfa.
Ychwanegodd bod busnesau dal yn gallu masnachu a bod lletygarwch ar agor, nid ar gau.
“Busnesau’n teimlo’r boen”
Wrth ymateb i gynhadledd y Prif Weinidog, galwodd y Ceidwadwyr Cymreig am “fap ffordd allan o gyfyngiadau Covid”.
“Gosodwyd cyfyngiadau yng Nghymru ar sail modelu, ac felly’r modelu ddylai fod yn sail i’w dileu,” meddai arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies AoS.
“Diolch byth, mae tystiolaeth yn dangos bod y risg o fynd i’r ysbyty yn is gyda’r amrywiolyn Omicron na Delta, ac oherwydd yr ymgyrch atgyfnerthu wych, mae gweinidogion Llafur mewn sefyllfa i roi gobaith i deuluoedd a busnesau a map allan o’r cyfyngiadau,” meddai.
“Mae busnesau’n teimlo’r boen gyda chyfyngiadau ar letygarwch, ac mae iechyd meddwl yn cael ergyd gyda chwaraeon yn cael eu cyfyngu, a hynny i gyd tra bod gwasanaethau cyhoeddus dan bwysau – nid oherwydd ysbytai a marwolaethau – ond oherwydd rheolau ynysu.
“Efallai bod rhai agweddau ar ddull gweithredu’r Llywodraeth yn ddealladwy, ond mae rhai anghysondebau syfrdanol: mae’r rheol chwech mewn tafarndai, bwytai a lleoliadau adloniant yn ogystal â bygythiadau i Gymru’n cynnal gemau’r Chwe Gwlad yn arwain at fwy o ganlyniadau negyddol na manteision.
“Roedd y Prif Weinidog yn iawn pan ddywedodd na ddylai’r cyfyngiadau aros mewn grym eiliad yn hirach na’r angen. O’r herwydd, mae map o’r ffordd ymlaen gan y Llywodraeth Lafur yn hanfodol wrth i ni ddysgu byw gyda’r feirws a rhoi cynllun ac eglurder y mae mawr ei angen i deuluoedd a busnesau.”