Dyma ddiweddariad dydd Gwener (7 Ionawr) am gyfraddau Covid-19 pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru.

Mae’r ffigurau, ar gyfer y saith diwrnod hyd at Ionawr 3, yn seiliedig ar nifer y bobl sydd wedi profi’n bositif am Covid-19 mewn prawf a gofnodwyd gan labordy, yn ogystal â phrofion llif ochrol cyflym positif nad oes ganddynt brawf PCR negyddol yn dilyn o fewn 72 awr.

Mynegir y gyfradd fel nifer yr achosion newydd fesul 100,000 o bobl.

Mae data ar gyfer y pedwar diwrnod diwethaf (Ionawr 4-7) wedi’i eithrio gan ei fod yn anghyflawn ac nid yw’n adlewyrchu gwir nifer yr achosion.

Cymoedd y De

Mae’r cyfraddau uchaf yng Nghymru yng nghymoedd y de ar hyn o bryd.

Blaenau Gwent sydd â’r gyfradd uchaf yng Nghymru (i fyny i 2,970.6, o 1,288.2 yr wythnos flaenorol) –  yn wir mae ymhlith deg uchaf y Deyrnas Unedig Gyfan – gyda’r  Rhondda yn ail yng Nghymru, a Merthyr Tudful yn drydydd.

Cyfrifwyd y rhestr gan ddefnyddio data a gyhoeddwyd ar 7 Ionawr ar ddangosfwrdd coronafeirws y Llywodraeth.

Y Rhestr Lawn

Chwith i’r dde: enw’r awdurdod lleol; cyfradd yr achosion newydd yn y saith diwrnod hyd ionawr 3; nifer (mewn cromfachau) o achosion newydd a gofnodwyd yn y saith diwrnod hyd at Ionawr 3; cyfradd yr achosion newydd yn y saith diwrnod hyd at Ragfyr 27; nifer (mewn cromfachau) o achosion newydd a gofnodwyd yn y saith diwrnod hyd at Ragfyr 27.

Blaenau Gwent, 2970.6, (2080), 1288.2, (902)

Rhondda Cynon Taf, 2758.1, (6671), 1755.9, (4247)

Merthyr Tudful, 2702.6, (1633), 1843.6, (1114)

Castell-nedd Port Talbot, 2620.8, (3784), 1318.7, (1904)

Pen-y-bont ar Ogwr, 2471.9, (3647), 1494.5, (2205)

Caerffili, 2452.0, (4456), 1335.5, (2427)

Abertawe, 2400.2, (5918), 1385.9, (3417)

Torfaen, 2384.2, (2261), 1584.9, (1503)

Conwy, 2300.6, (2719), 1523.0, (1800)

Casnewydd, 2246.8, (3515), 1534.7, (2401)

Sir y Fflint, 2196.4, (3445), 1405.2, (2204)

Wrecsam, 2002.9, (2725), 1332.5, (1813)

Ynys Môn, 1998.9, (1408), 1195.3, (842)

Bro Morgannwg, 1986.8, (2688), 1518.2, (2054)

Caerdydd, 1974.0, (7288), 1589.6, (5869)

Sir Ddinbych, 1966.6, (1901), 1492.8, (1443)

Sir Gaerfyrddin, 1959.2, (3724), 1079.6, (2052)

Powys, 1762.0, (2344), 953.2, (1268)

Gwynedd, 1757.6, (2200), 1455.6, (1822)

Ceredigion, 1655.8, (1207), 1445.9, (1054)

Sir Benfro, 1592.9, (2019), 1144.8, (1451)

Sir Fynwy, 1359.8, (1294), 997.2, (949)