Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cyhoeddi bod Derek Vaughan wedi cael ei benodi yn gynrychiolydd Llywodraeth Cymru yn Ewrop – y penodiad cyntaf i swydd o’r fath.
Bydd Mr Vaughan – a fu’n aelod o Senedd Ewrop dros y Blaid Lafur rhwng 2009 a 2019 – yn gynghorydd polisi arbenigol yn y rôl newydd ac yn gweithio “law yn llaw â swyddfa bresennol Llywodraeth Cymru ym Mrwsel, y tîm Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach yng Nghymru a rhanddeiliaid eraill”.
Yn ogystal â bod yn aelod o Senedd Ewrop, bu Derek Vaughan yn Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac yn Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot.
Dywedodd Mark Drakeford wrth y Senedd mewn datganiad ysgrifenedig y bydd y swydd “yn chwarae rôl bwysig wrth gysylltu Cymru ag Ewrop a gwneud yn siŵr bod llais Cymru yn parhau i gael ei glywed”.
“Dyma swydd newydd a fydd yn helpu Cymru i aros mewn cysylltiad â’r Undeb Ewropeaidd,” meddai’r Prif Weinidog, “a sicrhau bod cymunedau a busnesau ledled Cymru yn parhau i fanteisio, cyn belled ag sy’n bosibl, ar gysylltiadau parhaus ag Ewrop.
“Bydd Cymru bob amser yn genedl Ewropeaidd,” ychwanegodd y Prif Weinidog yn ei ddatganiad.